Addysgwyr Cymru – Ydych chi wedi cofrestru?

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Datblygwyd Addysgwyr Cymru gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnig amryw o wasanaethau sy’n dod â chyfleoedd am yrfaoedd, hyfforddiant a swyddi yn sector addysg Cymru at ei gilydd mewn un man hwylus.

Educators Wales logo

Defnyddiwch y gwasanaethau amrywiol sydd ar gael, yn cynnwys hysbysebu swyddi gwag a chyfleoedd hyfforddi, am ddim, gan arbed £1000oedd bob blwyddyn.
Os hoffech wybod mwy, ewch i wefan Addysgwyr Cymru.

Ffôn: 02920 460099
Ebost: information@educators.wales

Arolwg Cenedlaethol Gweithlu Addysg Bellach ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith 2023

Codwyd pryderon ynglŷn â baich gwaith yn yr arolwg gweithlu addysg genedlaethol yn 2021. Ers hynny mae’r grŵp llywio baich cenedlaethol (Cyd-Undebau Llafur, ColegauCymru a Llywodraeth Cymru) wedi ymgymryd â gwaith i ymateb i’r pryderon hynny.

Erbyn hyn, mae’r grŵp am asesu’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ac wedi gofyn i CGA ymgymryd â’r arolwg hwn i helpu mesur faint sydd wedi ei gyflawni. Bydd cwblhau’r arolwg yn ein helpu i gael darlun cyflawn o’ch profiadau a’ch pryderon cyfredol.

Bydd bob ymateb yn cael ei ddarllen a’i ddadansoddi a po uchaf yw’r nifer o ymatebion, y mwyaf o dystiolaeth fydd gennym i helpu i ddeall a mynd i’r afael â phryderon baich gwaith.

Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Gwener 31 Mawrth 2023. Gallwch fod yn hyderus y bydd eich ymateb yn gyfrinachol. Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 20 munud i’w gwblhau.

Cwblhau’r arolwg

Cyngor y Gweithlu Addysg

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —