Ffyrdd newydd o ymgysylltu â dysgu Cymraeg yn ystod y cyfnod pellter cymdeithasol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

WelshAtWork-1024x512px-CY-v2

Ers dechrau’r cyfyngiadau symud; lle mae’r mwyafrif o weithleoedd wedi cau, mae wedi bod yn anoddach i bobl gymdeithasu a mynychu dosbarthiadau lle gallant ddysgu Cymraeg. Fodd bynnag, peidiwch ag ofni; mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi ddechrau neu barhau i ddysgu Cymraeg o bell yn ddigidol ac yn gymdeithasol. Dyma ychydig o ddolenni i rai o’r hyn sydd ar gael.

Prentis-iaith
Yn ddiweddar, comisiynodd Coleg Cymraeg Cenedlaethol adnodd ar-lein rhyngweithiol i’r holl brentisiaid ddysgu mwy am bwysigrwydd Cymraeg; ond hefyd eiriau ac ymadroddion defnyddiol y gallant eu defnyddio yn y gwaith; lle mae fersiynau wedi’u teilwra ar gyfer y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant, Amaethyddiaeth ac Adeiladu.
www.porth.ac.uk/en/collection/prentis-iaith

Adnoddau Digidol Ar-lein
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol wedi lanlwytho 1500 o adnoddau dysgu digidol am ddim gan gynnwys ymarferion fideo, sain a rhyngweithiol sy’n cyfateb i’w lefelau dysgu (Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch).
dysgucymraeg.cymru/dysgu/adnoddau-digidol/mynediad

Cyrsiau Cymraeg Ar-lein
Mae gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol gyfoeth o gyrsiau blasu ar-lein ar eu gwefan. Mae rhai ohonynt yn gyrsiau Cymraeg cyffredinol, tra bod llawer o rai eraill wedi’u teilwra i rolau a / neu ddiwydiannau eraill.
dysgucymraeg.cymru/cymraeg-gwaith/cyrsiau-cymraeg-gwaith/cyrsiau-blasu-ar-lein

Cyrsiau Cymraeg Dyddiol
Ers dechrau’r cyfyngiadau symud, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol wedi esblygu trwy gynnig sesiynau Cymraeg 10 munud am ddim i ddechreuwyr at 3pm bob dydd. Mae’r holl sesiynau o 23/03/2020 bellach ar gael ar-lein i chi ddechrau dysgu Cymraeg.
learnwelsh.cymru/news/live-lessons-for-new-learners

SaySomethinginWelsh
Mae hwn yn ddull o ddysgu Cymraeg ar lafar a bydd yn eich galluogi i allu siarad Cymraeg heb yr angen i ysgrifennu unrhyw beth i lawr. Pan fyddwch chi’n dechrau defnyddio’r wefan (neu’r ap) hon byddwch chi’n gallu dewis a ydych chi eisiau dysgu defnyddio Cymraeg De neu Ogledd Cymru.
www.saysomethingin.com/welsh/course1

Duolingo
Mae Duolingo yn ddull arall o ddysgu Cymraeg yn rhyngweithiol ar-lein neu trwy ap; ac yn galluogi unigolion i ddysgu Cymraeg ar eu cyflymder eu hunain.
www.duolingo.com/course/cy/en/Learn-Welsh

Iaith ar Daith
Mae enwogion fel Carol Vorderman, Colin Jackson a Ruth Jones yn dysgu Cymraeg. Dechreuodd rhaglen deledu Iaith ar Daith ar S4C ar Ddydd Sul 19 Ebrill 2020 at 8pm. Beth am ddal i fyny ar-lein nawr?
www.s4c.cymru/en/entertainment/iaith-ar-daith/tags

More News Articles

  —