Llysgennad Prentisiaethau wedi newid gyrfa o fyd argraffu i fod yn blymer

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Gethin Evans yn mwynhau ei yrfa newydd fel prentis plymer.

Ar ôl 12 mlynedd yn yr un swydd gyda chwmni argraffu, penderfynodd Gethin Evans newid ei yrfa er mwyn cael gwell dyfodol iddo ef a’i deulu gan fod ei wraig yn disgwyl eu hail blentyn.

Fodd bynnag, nid yw’r daith i fod yn blymer wedi bod yn hollol esmwyth, gan ei fod wedi cael tri chyflogwr o fewn tair blynedd – a hynny heb unrhyw fai arno ef.

Dechreuodd Gethin, 32, o Aberystwyth, ar brentisiaeth gyda ffrind o blymer ond penderfynodd hwnnw symud o’r ardal ar ôl chwe mis, â Gethin yn disgwyl ei ail fab o fewn wythnos.

Yna bu’n gweithio i fusnes plymio arall am fwy na dwy flynedd cyn colli ei waith ym mis Ionawr oherwydd effaith pandemig Covid-19.

Erbyn hyn, mae Gethin, sy’n benderfynol o lwyddo, wedi cael gwaith gydag AHE (Aber Heating Engineers) ac mae wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen i Brentisiaeth mewn Plymio a Gwresogi gyda Hyfforddiant Ceredigion Training.

Er gwaethaf yr heriau y mae wedi’u hwynebu o ran gwaith, nid yw’n difaru gadael ei swydd wreiddiol fel rhwymwr llyfrau gyda chwmni argraffu lle nad oedd ganddo lawer o obaith am ddyrchafiad.

Mae Gethin wrth ei fodd yn brentis plymer, yn cael dysgu crefft newydd, cwrdd â phobl newydd a gwneud gwahanol waith bob dydd.

Gan ei fod mor frwd dros yr iaith Gymraeg a phrentisiaethau, cafodd ei benodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Cymraeg yw iaith gyntaf Gethin ac fe gymerodd ran mewn ymgyrch lle cafodd nifer o brentisiaid feddiannu cyfrif Instagram neilltuol yn ystod Wythnos Prentisiaethau er mwyn rhoi cipolwg i bobl ar ei waith fel prentis. Mae hefyd wedi gwneud fideo dwyieithog i Hyfforddiant Ceredigion Training i’w ddefnyddio yn niwrnod agored y cwmni a gynhaliwyd ar lein.

Mae’n ei chyfrif yn fraint bod yn Llysgennad ac, ar ôl iddo sôn wrth gyn-gydweithiwr ym maes argraffu am fanteision prentisiaeth, mae hwnnw yn brentis saer erbyn hyn.

Mae Gethin yn deall yr angen i wneud ei brentisiaeth yn Saesneg gan fod y gwerslyfrau i gyd a llawer o’r termau yn Saesneg ond mae’n manteisio ar bob cyfle i siarad Cymraeg â phrentisiaid eraill, tiwtoriaid, cydweithwyr a chwsmeriaid.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod cyfleoedd i wneud prentisiaethau yn ddwyieithog lle bo modd ond rwy’n deall bod angen gwneud rhai ohonyn nhw yn Saesneg,” meddai. “Er enghraifft, gallai cyfeithu rhai o’r termau technegol i’r Gymraeg wneud pethau’n rhy gymhleth i ddysgwyr.

“Rwy’n defnyddio cymaint o Gymraeg ag y galla i yn y gwaith er mwyn rhoi hwb i hyder cydweithwyr sy’n deall ac yn siarad ychydig o Gymraeg ond sydd heb yr hyder i’w defnyddio.

“Rwy’n credu bod prentisiaethau’n wych achos does dim gwell lle i ddysgu’ch crefft nag yn y gweithle. Dyw astudio yn yr ystafell ddosbarth neu ddarllen llyfrau ddim yr un peth â chael eich dwylo’n frwnt yn y gwaith. Pe bawn i wedi cael cynnig prentisiaeth yn gynt, byddwn i wedi’i chymryd.

“Mae angen i ni newid y syniad sydd gan rai pobl mai dim ond ar gyfer pobl ifanc mae prentisiaethau. Mae angen rhoi mwy o sylw i brentisiaethau mewn ysgolion a’u hyrwyddo fel llwybr gyrfa. Mae llawer o bobl yn mynd i’r brifysgol i wneud gradd nad yw’n arwain at swydd.”

Cafodd Gethin ei enwebu i fod yn Llysgennad Prentisiaethau gan Annabel Cooper, ei asesydd yn Hyfforddiant Ceredigion. “Mae Gethin yn frwd iawn dros yr iaith Gymraeg a’i brentisiaeth ond dyw e ddim yn gwneud i neb deimlo’n anghyfforddus am nad ydyn nhw’n deall yr iaith,” meddai.

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —