Gobaith am wobr am i sefydliad lle mae’r ystadegau’n siarad drostynt eu hunain

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Jo Ford, ONS’s talent, inclusion and apprenticeship lead, with apprentices.

Jo Ford, swyddog arweiniol yr ONS ym maes talent, cynhwysiant a phrentisiaethau.

Mae sefydliad sy’n cael dylanwad sylweddol ar brosesau penderfynu yn y Deyrnas Unedig, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), yn ymfalchïo ei fod yn recriwtio ac yn hyfforddi gweithlu o safon uchel.

Mae’r ONS, sydd â 2,177 o weithwyr, wedi ymrwymo i sicrhau bod 2.3% o’i weithlu yng Nghymru yn dechrau fel prentisiaid, sy’n golygu 44 bob blwyddyn yn y pencadlys yng Nghasnewydd.

Mae’n rhaglen uchelgeisiol a fu’n rhedeg ers 18 mis. Caiff ei chydlynu gan ALS Training ac fe gynigir wyth fframwaith prentisiaethau ar hyn o bryd, yn cynnwys y Brentisiaeth Uwch Lefel 4 arloesol mewn Dadansoddi Data.

Yn awr, mae’r ONS wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

“Mae’r ONS wedi cofleidio prentisiaethau yn ystod 2017/18,” meddai Jo Ford, swyddog arweiniol yr ONS ym maes talent, cynhwysiant a phrentisiaethau. “Erbyn hyn mae gennym dros gant o brentisiaid yn gwneud gwahanol brentisiaethau. Mae rhai ohonynt yn newydd i’r ONS a rhai’n staff presennol sy’n awyddus i ddatblygu eu gyrfa.

“Mae gennym raglenni ar gyfer gwahanol broffesiynau fel Dadansoddi Data, Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Arwain Tîm, Gweinyddu Busnes, Adnoddau Dynol, Dysgu a Datblygu, Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Masnach a Marchnata.”

Mae rhaglen Dadansoddi Data Lefel 4, a ddatblygwyd gydag ALS Training er mwyn cael cymhwyster addas ym maes dadansoddi, yn rhan allweddol o gynllun yr ONS i lywio’r ffordd y mae’n recriwtio, yn datblygu ac yn cadw gweithlu o safon uchel.

“Mae’r ONS yn batrwm ar gyfer cydweithio rhwng sefydliadau ar Raglenni Prentisiaethau,” meddai Helena Williams, cyfarwyddwr gydag ALS Training.

“Mae’r ONS wedi dangos ei fod yn deall gwerth y Rhaglenni Prentisiaethau i bobl sy’n dechrau gweithio, o bob rhan o Gymru a’r tu hwnt. Mae ganddo raglenni i ymweld ag ysgolion ac mae’n recriwtio prentisiaid sy’n symud o Loegr i fanteisio ar y cyfle.”

Mae Rhaglen Brentisiaethau’r ONS yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru bod angen i bobl ifanc gael y cychwyn gorau mewn bywyd trwy hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr ardderchog at yrfa lwyddiannus.

Wrth longyfarch yr ONS ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol
Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —