Gobaith am wobr i ITV Cymru sy’n cyrraedd targedau prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV, Phil Henfrey, gyda’r Arbenigwr Cynhyrchu Arweiniol, Fiona Francis a’r prentisiaid Zahra Errami, Mollie Latham, Safyan Iqbal ac Eugenia Taylor.

Mae ITV Cymru ar y rhestr fer am wobr yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru fis nesaf o ganlyniad i lwyddiant ei Raglen Brentisiaethau.

Cyflwynir y gwobrau arbennig sy’n ddathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau, mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref. Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Dros y pedair blynedd ers sefydlu rhaglen brentisiaethau ITV Cymru, mae’r holl brentisiaid wedi mynd ymlaen i waith llawn amser yn y diwydiannau creadigol ac mae bron 90% o’r rhai a fu’n rhan o’r rhaglen yn anabl, yn bobl duon neu Asiaidd neu’n perthyn i leiafrifoedd ethnig, neu dan anfantais gymdeithasol.

Dywedodd Pennaeth Newyddion a Rhaglenni ITV, Phil Henfrey: “Rydym yn credu’n gryf y byddwn ni fel busnes yn dysgu gymaint gan ein prentisiaid ag y gallwn ni ei ddysgu iddyn nhw. Trwy fod yn gynhwysol, rydym wedi cyfoethogi ein gweithlu ac wedi hybu dyfeisgarwch.”

Trwy gael rhywun byddar yn brentis, mae’r newyddiadurwyr wedi dod yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd cael is-deitlau o safon uchel ac fe ddefnyddir iaith arwyddion mewn cyfarfodydd tîm yn naturiol erbyn hyn.

Mae gan ITV Cymru bedwar prentis sy’n gweithio ar Brentisiaeth yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol, gyda Sgil Cymru yn cefnogi’r rhan o’r hyfforddiant sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth.

Ychwanegodd Mr Henfrey: “Mae pob prentis yn cael profiad o bob rhan o waith cynhyrchu rhaglenni teledu – yr agweddau creadigol, golygyddol a gweithredol – cyn meithrin sgiliau cynhyrchu allweddol sy’n addas ar gyfer eu cryfderau unigol.

“Rydym ni fel busnes yn awyddus i’n prentisiaid adrodd eu stori a chyhoeddi eu profiadau ar sianelau cyfryngau cymdeithasol ITV er mwyn codi ymwybyddiaeth o werth prentisiaethau i unigolion o bob rhan o gymdeithas yng Nghymru.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ITV Cymru a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —