Gweinidog yn Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad ar brentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Siaradwyr yng nghyfarfod lansio ‘Sicrhau’r Gwerth Mwyaf i Brentisiaethau yng Nghymru’ yn y Senedd (o’r chwith) un o’r cyd-awduron Nicky Perry MBE o Beyond Standards, Kirstie Donelly MBE, rheolwr gyfarwyddwr City & Guilds, DigitalMe ac ILM, Jack Sargeant, AC Alun a Glannau Dyfrdwy, Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Sarah John, cadeirydd NTfW.

Mae adroddiad newydd sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau i raglen brentisiaethau lwyddiannus y wlad fel ei bod gyda’r gorau yn y byd wedi’i groesawu gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

“Mae’r adroddiad yn gyfraniad gwerthfawr at ein ffordd o feddwl ac o ystyried datblygu polisïau i’r dyfodol,” meddai yng nghyfarfod lansio’r adroddiad annibynnol ‘Sicrhau’r Gwerth Mwyaf i Brentisiaethau yng Nghymru’, yn y Senedd yng Nghaerdydd.
“Yr her i bawb ohonom yw creu system brentisiaethau ymatebol sydd â chyfiawnder cymdeithasol yn ganolog iddi.”

Mewn ymateb i’r adroddiad, mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a City & Guilds wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno ardoll sgiliau ar wahân ar gyfer Cymru, i sefydlu corff arweiniol i reoli ansawdd prentisiaethau ac i gynnig diffiniad clir o ddiben prentisiaethau.

Comisiynwyd yr adroddiad gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a City & Guilds gyda chefnogaeth Pwyllgor Cynghori Cenedlaethol City & Guilds yng Nghymru i ystyried ffyrdd o wella’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru, sydd eisoes yn llwyddiannus. Dyma’r adroddiad cyntaf o’i fath sy’n canolbwyntio’n benodol ar brentisiaethau yng Nghymru.

Dywedodd Mr Skates wrth y gynulleidfa ei fod wrth ei fodd o gael sgiliau yn ôl yn ei bortffolio oherwydd bu’n gyfrifol am brentisiaethau o’r blaen pan oedd yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.

Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru’n awyddus i ymgynghori i sicrhau bod y broses bontio i brentisiaethau’n fwy esmwyth ar gyfer pobl ifanc, i sicrhau bod cyfleoedd am brentisiaethau i’w gweld yn fwy amlwg ac i leihau nifer y fframweithiau prentisiaethau.

Dywedodd fod gan Gymru raglen brentisiaethau “fywiog” a’i fod yn hyderus y byddai Llywodraeth Cymru’n rhagori ar eu targed o greu 100,000 o brentisiaethau yn ystod ei thymor presennol. “Ond nid niferoedd yw’r unig beth sy’n bwysig,” pwysleisiodd. “Mae safon yn hollbwysig i’r rhaglen.”

Cyfeiriodd at yr ardoll brentisiaethau a dweud na fyddai Llywodraeth Cymru’n ailadrodd y camgymeriadau a’r methiannau a gafwyd yn Lloegr. “Rydyn ni’n benderfynol o roi pwyslais ar safon,” addawodd.

Gofynnwyd i awduron yr adroddiad, David Sherlock CBE a Nicky Perry MBE o Beyond Standards i ymchwilio a dadansoddi hyd a lled y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru a sut y mae unigolion ac economi Cymru yn elwa ohoni.

Dywedodd Nicky Perry MBE: “Mae prentisiaethau yng Nghymru yn sefydlog ac yn solet a gallent barhau felly am byth. Ond dydyn nhw ddim yn rhagorol.”

Dywedodd bod angen codi’r safon, lleihau nifer y fframweithiau prentisiaethau ar gyfer proffesiynau ac adolygu’r ardoll brentisiaethau gan nad oedd yn gwneud fel y bwriadwyd.

“Credwn y gallai Cymru gael y rhaglen brentisiaethau orau o bell ffordd yn y Deyrnas Unedig a dylem anelu at hynny,” meddai. “Mae gennych chi’r adnoddau, yr egni a’r ysbrydoliaeth i lwyddo.”

DywedNoddwyd cyfarfod lansio’r adroddiad gan Jack Sargeant, Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy a chyn-brentis peirianneg, ac meddai: “Mae hwn yn adroddiad amserol ac yn gyfle i Lywodraeth Cymru ystyried sut i ddal ati i sicrhau bod prentisiaethau’n cael yr effaith fwyaf bosibl wrth i ni symud i mewn i’r chwyldro diwydiannol nesaf.

“Mae gen i brofiad personol o effaith gadarnhaol prentisiaethau ac rwy’n credu’n gryf yn eu gwerth.”

Dywedodd cadeirydd NTfW, Sarah John: “Mae’r NTfW yn cydnabod bod y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru wedi symud ymlaen yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a bod y rhaglen yn addasu’n barhaus. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y gellid gwneud mwy i wella ansawdd y rhaglen yn gyffredinol er mwyn parhau i ddiwallu anghenion unigolion, cyflogwyr ac economi Cymru yn ehangach.

“Mae prentisiaethau yng Nghymru’n mynd i’r cyfeiriad cywir ond mae angen dechrau symud yn gynt o lawer.”

Dywedodd Kirstie Donelly MBE, rheolwr gyfarwyddwr City & Guilds, DigitalMe ac ILM, mai bwriad yr adroddiad a’r argymhellion a wnaed ar y cyd gan NTfW a City & Guilds oedd helpu i adeiladu system brentisiaethau ragorol yng Nghymru.

“Credwn yn gryf fod gennym sylfeini cadarn i adeiladu arnynt ac rydym wedi datblygu nifer o argymhellion a galwadau i weithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru. Os caiff y rhain eu gweithredu, bydd Cymru ar y llwybr i lwyddo,” meddai.

DyeDywedodd Jeff Protheroe, cyfarwyddwr gweithrediadau NTfW: “Byddwn yn rhannu’r adroddiad hwnt gydag ACau a phleidiau gwleidyddol yn awr ac symud ymlaen â’r agenda hon. Dewch i ni sicrhau bod prentisiaethau yng Nghymru gyda’r gorau yn y byd.”

Dywedodd Jane Russell, rheolwr pobl gyda Morrisons: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddarllen yr adroddiad pwysig hwn a gweld sut y gall ein busnes ni elwa arno. Mae prentisiaid mewn 15 o’r 23 o siopau sydd gennym yn ein rhanbarth ni, ac rydym yn gobeithio cyflogi mwy yn y dyfodol.

“Byddwn yn rhoi sylw i straeon am ein prentisiaid ni yn ein siopau yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ym mis Mawrth.

More News Articles

  —