Gweinidog yn tanlinellu pwysigrwydd dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Conference speakers (from left) Mark McDonough from Grŵp Llandrillo Menai, Kelly Edward, the NTfW’s head of work-based learning quality, Mark Evans, Her Majesty’s Inspector from Estyn, Sarah John, the NTfW’s chairman and Julie James, Minister for Skills and Science.

Y siaradwyr yn y gynhadledd (o’r chwith) Mark McDonough o Grŵp Llandrillo Menai, Kelly Edwards, pennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith NTfW, Mark Evans, Arolygydd Ei Mawrhydi o Estyn, Sarah John, cadeirydd NTfW a Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

Tanlinellwyd y rhan hanfodol y mae ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn ei chwarae fel addysgwyr yng Nghymru gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, mewn cynhadledd bwysig yng Nghaerdydd.

Dywedodd wrth gynulleidfa o dros 230 yn y gynhadledd ‘Cryfhau Sgiliau er mwyn Llwyddo’, a drefnwyd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’i noddi gan Lywodraeth Cymru, ei bod yn awyddus i weld rhagor o bobl ifanc yn dewis prentisiaethau pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Mae hefyd yn awyddus i weld rhagor o brentisiaethau mewn sectorau blaenoriaeth, yn enwedig gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) a rhagor o bobl yn dilyn prentisiaethau uwch a phrentisiaethau gradd yn hytrach na mynd i brifysgol. Yn ogystal, mae am weld dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau i ddatblygu trwy’r sector dysgu seiliedig ar waith i gyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addunedu i gyflenwi o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel sy’n diwallu anghenion cyflogwyr ac yn meithrin sgiliau lefel uwch ymhlith gweithlu Cymru. “Mae angen i’r rhaglen barhau i ddatblygu a thyfu ond y newyddion da yw bod cyfleoedd gwirioneddol i’w cael, yn cynnwys cyflogwyr newydd i’w cynnwys a sectorau newydd i’w datblygu,” meddai.

“Mae gennym dair Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol yn barod i gydweithio â chi ac â chyflogwyr er mwyn sicrhau bod digon o brentisiaethau i ateb y galw.”

Cyfeiriodd at ardoll brentisiaethau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a delir gan bob cyflogwr sy’n talu £3 miliwn neu fwy mewn cyflogau o 6 Ebrill eleni ymlaen. Bydd gan Lywodraeth Cymru dîm o gynghorwyr i gydweithio â chyflogwyr i sicrhau bod yr hyn a gynigir o ran prentisiaethau yn diwallu eu hanghenion ac mae £15 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen gefnogi.

“Mae’r ardoll yn golygu bod cyflogwyr newydd yn dechrau dangos diddordeb mewn prentisiaethau a byddant yn disgwyl hyfforddiant sy’n addas ar gyfer eu busnes a’u gweithlu nhw,” dywedodd wrth y cynadleddwyr. “Bydd angen i ymarferwyr ddatblygu a gloywi eu sgiliau er mwyn cyflwyno fframweithiau newydd ar lefelau uwch.

“Nid oes dim o hyn yn syml, ond mae’r potensial yn enfawr, yn cynnwys rhaglen brentisiaethau ymatebol sydd gyda’r gorau yn y byd ac yn cynnig profiadau ymarferol, cymwysterau a gobaith am yrfa faith.”

Galwodd y Gweinidog am gydnabod ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn addysgwyr proffesiynol a chroesawodd y trefniadau i’w cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg o 1 Ebrill ymlaen.

Bwriad y gynhadledd gychwynnol, a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, oedd cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol ac ystyried sut y bydd addysgu, dysgu ac asesu’n datblygu yn y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru o hyn ymlaen. Cafodd y gynhadledd farc ansawdd Agored Cymru, y corff dyfarnu Cymreig.

Canmolwyd y cynadleddwyr gan Sarah John, cadeirydd NTfW, am sicrhau bod dros 80 y cant o brentisiaid Cymru’n llwyddo i gwblhau eu prentisiaethau, o’i gymharu â chyfradd o 67 y cant yn Lloegr ar hyn o bryd.

Mae’r ymgyrch i gyflenwi rhagor o brentisiaethau uwch yng Nghymru wedi arwain at gynnydd – o 16 y cant i 22 y cant – mewn dim ond un flwyddyn gontract. “Ond mae rhagor o waith i’w wneud i ddiwallu anghenion cynyddol cyflogwyr, yn enwedig wrth i’r ardoll brentisiaethau ddechrau esgor ar gynnydd yn y galw.

“Mae angen i ddarparwyr fod yn ymatebol, yn chwim ac yn hyblyg er mwyn ymateb i’r anghenion newydd am ddysgu ar lefel uwch. Efallai y bydd angen addasu modelau traddodiadol i gynnwys mwy o gydweithio rhwng cyrff cyflenwi ac mae angen i ni gefnogi’r sector mentrau bach a chanolig eu maint (BBaChau) yng Nghymru yn enwedig ym maes entrepreneuriaeth ac arloesi.”

Tanlinellodd Mark Evans, Arolygydd Ei Mawrhydi o Estyn, bwysigrwydd cynllunio effeithiol ar ddechrau rhaglenni hyfforddi er mwyn sicrhau bod targedau ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr yn cael eu gosod a’u cyflawni yn brydlon. Aeth ati i annog ymarferwyr i sicrhau eu bod yn diweddaru eu gwybodaeth dechnegol ac yn herio dysgwyr i gyrraedd eu llawn botensial.

Dywedodd Angela Jardine, cadeirydd Cyngor y Gweithlu Addysg, bod yr NTfW wedi bod yn ymgyrchu ers hyd at 30 mlynedd i sicrhau bod ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cael eu cydnabod yn broffesiynol. “Bydd yn codi statws eich gwaith ac, o 1 Ebrill ymlaen, byddwch yn weithwyr proffesiynol – yn swyddogol,” meddai.

Y siaradwyr eraill oedd Linda Chorley o City & Guilds, a Mark McDonough, o Grŵp Llandrillo Menai, sef Asesydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y llynedd.

Roedd yno weithdai ymarferol a chyfleoedd i drafod a fu’n help i’r cynadleddwyr i ddysgu ac arloesi. Roedd y digwyddiad yn gysylltiedig â Phrosiect Gwella Ansawdd NTfW sy’n cael ei gefnogi a’i ran-ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

More News Articles

  —