Gwobrwyo myfyrwyr a darlithwyr fel rhan o ddathliadau deng-mlwyddiant y Coleg Cymraeg

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ifan Phillips – Enillydd y wobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury

Ar ddechrau blwyddyn o ddathliadau i nodi deng mlynedd ers sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cyflwynir Gwobrau Blynyddol y Coleg heno (5 Hydref) i rai o’r myfyrwyr Cymraeg disgleiriaf ac mwyaf ymroddedig ac i ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21.

Yn dilyn deunaw mis heriol iawn i’r sector yng Nghymru, mae’r Coleg yn falch o gyhoeddi enwau’r enillwyr ar draws chwe chategori o Wobrau Myfyrwyr eleni:

Gwobr Gwyn Thomas am y traethawd estynedig gorau a gyflwynwyd ym maes y Gymraeg. Enillydd y wobr eleni ydy Nia Eyre, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd am ei thraethawd hir, “Archwilio modd mynegiannol hunanffuglen mewn rhyddiaith Gymraeg”.

Gwobr John Davies am y traethawd estynedig gorau ym maes Hanes Cymru. Enillydd y wobr eleni ydy Anwen Rhiannon Jones, Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd am ei thraethawd hir, “Iechyd Cyhoeddus a Chyfradd Marwolaethau Oedolion a Babanod: Profiad Llanelli 1880-1914”.

Gwobr Merêd sy’n cydnabod cyfraniad myfyriwr i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn prifysgol. Enillydd y wobr eleni ydy Owain Beynon, Myfyriwr Doethuriaeth, Ysgol Gemeg, Prifysgol Caerdydd am ddangos gweledigaeth a brwdfrydedd wrth sicrhau fod glasfyfyrwyr Medi 2020 wedi derbyn yr un croeso ag arfer, er gwaethaf yr amgylchiadau heriol. Fe’i wobrwyir hefyd am ei waith i sicrhau bod Cemeg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael sylw ac yn denu diddordeb myfyrwyr.

Gwobr Norah Isaac ar gyfer y myfyriwr sy’n derbyn y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg. Sioned Spencer, Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor yw enillydd y wobr eleni.

Cyflwynir dwy wobr ychwanegol i fyfyrwyr eleni am y tro cyntaf ar ran Ymddiriedolaeth William Salesbury:

Mae’r Wobr Addysg Bellach a Phrentisiaethau William Salesbury yn cydnabod cyfraniad dysgwr neu brentis i’r bywyd a’r diwylliant Cymraeg o fewn coleg addysg bellach neu ddarparwr prentisiaeth. Enillydd y wobr eleni ydy Ifan Phillips, Prentis mewn Gosodiadau Trydanol, Coleg Sir Benfro am ei gyfraniad tuag at hyrwyddo prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog yn y Coleg.

Mae Gwobr Meddygaeth William Salesbury yn cydnabod arloesedd prosiect ymchwil sydd wedi ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, a/neu cyfraniad i weithgareddau cyfredol allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth. Enillwyr y wobr eleni ydy Owain Williams, Chelsie Waters, Lowri James a Megan Evans, Clwb Mynydd Bychan, Prifysgol Caerdydd am chware rôl flaengar wrth adnewyddu Cymdeithas Feddygol Gymraeg, Clwb y Mynydd Bychan, Prifysgol Caerdydd.

Bydd pob enillydd yn derbyn tlws a gwobr ariannol o £200.

Cyhoeddir enillwyr y tri chategori ar gyfer Gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg yn y noson wobrwyo heno hefyd sef:

Gwobr y Myfyrwyr, sy’n gategori newydd ar gyfer 2020-21, er mwyn i fyfyrwyr gael y cyfle i enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau yn y brifysgol. Enillydd y wobr hon eleni yw Geraint Forster, Uwch-ddarlithydd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am yr effaith gadarnhaol mae ei waith yn ei gael ar brofiad myfyrwyr yn yr adran ac roedd hyn yn glir iawn yn sylwadau’r myfyrwyr hynny.

Gwobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol er mwyn cydnabod darlithydd neu ymarferydd sydd wedi arwain ar greu adnodd cyfrwng Cymraeg sydd o ansawdd uchel ac sy’n cefnogi’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Enillydd y wobr hon eleni ydy Jeni Price, Uwch-ddarlithydd Rhagoriaith, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer adnodd Troi’r Trai Mewn Tri Deg Mlynedd sef modiwl ar-lein sy’n mynd ati’n uniongyrchol i geisio ymateb i’r heriau wrth geisio cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Dyfernir y Wobr Cyfraniad Eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg i unigolyn sydd yn haeddu cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad eithriadol i addysg uwch tu hwnt i’w rôl broffesiynol. Enillydd y wobr hon eleni ydy Dr Lowri Cunnington Wynn, Darlithydd Troseddeg, Prifysgol Aberystwyth am weithio’n ddiflino i ddatblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, denu myfyrwyr i astudio’r pwnc drwy’r Gymraeg, annog myfyrwyr presennol i ddewis modiwlau cyfrwng Cymraeg a gwella’r adnoddau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.

Caiff Gwobr Gwerddon ei chyhoeddi heno yn ogystal. Yn dilyn enwebiadau gan aelodau’r Bwrdd Golygyddol, dyfarnwyd mai enillydd y wobr eleni yw Dr Huw Williams, Uwch-Ddarlithydd Athroniaeth, Phrifysgol Caerdydd, gyda’i erthygl – ‘Y Llwybr tuag at Heddwch Parhaol: John Rawls a’r Athrawiaeth Rhyfel Cyfiawn’. Mae Huw yn athronydd gwleidyddol amlwg – trwy ei gyfrolau Credoau’r Cymry ac Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig, a thrwy gyfraniadau amrywiol at gyfnodolion fel Planet ac O’r Pedwar Gwynt, mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol at drafodaeth athronyddol yng Nghymru.

Yn ôl Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg, Dr Ioan Matthews, fydd yn cyflwyno’r gwobrau ac yn annerch y digwyddiad:

“Mae’n addas iawn ein bod yn cychwyn blwyddyn o ddathliadau i nodi deng-mlwyddiant y Coleg drwy wobrwyo rhai o’n dysgwyr a’n myfyrwyr Cymraeg disgleiriaf, a’n darlithwyr cyfrwng Cymraeg mwyaf ymroddedig. Myfyrwyr, dysgwyr a darlithwyr sydd wrth galon llwyddiant y Coleg dros y degawd ac rydym yn ymfalchïo heno yn eu llwyddiant ysgubol dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Dros ddeunaw mis mae dysgwyr, prentisiaid, myfyrwyr a darlithwyr ar draws Cymru wedi wynebu heriau digynsail wrth geisio parhau â’r dysgu ac addysgu. Mae cyfle gennym heno i ddathlu ac i ddiolch i’r gymuned gyfan am eu hymdrechion arwrol i sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog wedi parhau er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil y pandemig.

“Mae’r enillwyr heno yn haeddu pob canmoliaeth a chydnabyddiaeth am eu gwaith academaidd graenus o’r safon uchaf ond hefyd am annog a chefnogi eu cyfoedion a’u cydweithwyr o fewn y prifysgolion a gweithleoedd i arddel eu Cymreictod a thrwy wneud hynny godi proffil y Gymraeg yn y sefydliadau.

“Yn sgil methu â chwrdd a chynnal darlithoedd a seminarau wyneb yn wyneb am rannau helaeth o’r flwyddyn mae pawb wedi gorfod addasu a darganfod ffyrdd newydd o weithio a chefnogi ei gilydd. Mae’r enwebiadau a dderbyniwyd ar draws yr holl gategorïau yn profi bod gwaith o’r safon uchaf yn ogystal ag ochor gymdeithasol bywyd prifysgol a’r sector ôl-16 wedi medru parhau drwy ddulliau amgen a rhithiol.
“Rydym yn hynod o falch i gynnwys dau gategori newydd o wobrau eleni drwy garedigrwydd Ymddiriedolaeth Williams Salesbury sy’n cydnabod cyfraniad yn y maes ôl-16 a hefyd yn y maes meddygaeth – dau sector allweddol o ran strategaeth y Coleg dros y blynyddoedd nesaf. Hoffwn ddiolch i’r ymddiriedolwyr am eu cyfraniad hael a’u cefnogaeth i’r Coleg.

“Dymuna’r Coleg a Bwrdd Golygyddol Gwerddon ddiolch hefyd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am ei nawdd hael i’r wobr Gwerddon eto eleni. Mae’r enillydd yn derbyn £100 yn rhoddedig gan y Gymdeithas.

“Ar ran y Coleg hoffwn ddymuno llongyfarchiadau enfawr i’r enillwyr i gyd a diolch mawr iddyn nhw am eu gwaith ysbrydoledig yn wyneb amgylchiadau mor heriol.”

Oherwydd yr amgylchiadau mae’r Coleg wedi trefnu seremoni wobrwyo hybrid fydd yn digwydd yn rhannol yn rhithiol ac yn rhannol wyneb yn wyneb gan sicrhau pellter cymdeithasol yng Nghanolfan Yr Egin S4C, Caerfyrddin heno am 6:30yh. Gellir gwylio’r digwyddiad yma ar sianel youtube y Coleg.

Bydd rhaglen o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu drwy gydol y flwyddyn academaidd hon i nodi dengmlwyddiant y Coleg.

More News Articles

  —