Gwobrau Ysbrydoli! Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru: Galwad am enwebiadau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru yn croesawu enwebiadau ar gyfer Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! a Gwobrau Tiwtoriaid Ysbrydoli!. Trefnir y gwobrau blynyddol gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Gwobrau Tiwtoriaid Ysbrydoli! 2021

Y tu ôl i oedolion sy’n ddysgwyr llwyddiannus, mae mentoriaid a thiwtoriaid sy’n eu hysbrydoli.

Mae’r gwobrau i Diwtoriaid yn ffordd o ddathlu’r dylanwad a gaiff tiwtoriaid wrth helpu oedolion i ddysgu i’w llawn botensial, gan drawsnewid eu bywydau. Bu’r amserau anodd hyn yn hwb i lawer o ddarparwyr dysgu fynd ati i greu ffyrdd newydd o ddysgu yn gynt nag y byddent wedi’i wneud fel arall – gan ddefnyddio dulliau digidol a chyfunol. Mae hyn wedi dangos pa mor wydn, dawnus ac ymroddgar yw’r gweithlu addysg oedolion ledled Cymru.

Mae Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru yn chwilio am diwtoriaid a mentoriaid eithriadol yng Nghymru y mae eu hymroddiad, eu gwybodaeth a’u sgiliau wedi annog oedolion sy’n ddysgwyr i anelu at eu nod a dilyn eu breuddwydion gan roi’r hyder iddynt drawsnewid eu bywydau.

Bydd y tiwtoriaid a’r mentoriaid yn gweithio yn y sectorau neu’r lleoliadau isod:

  • Addysg Uwch
  • Addysg Bellach
  • Gweithle
  • Addysg Gymunedol
  • Cymraeg i Oedolion
  • Ysgol neu leoliad arall

Bydd gwobr arbennig i gydnabod cyfraniad y sector addysg oedolion at gefnogi unigolion a chymunedau mewn ymateb i’r pandemig.

Ewch i wefan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru i weld y canllawiau a’r ffurflen gais ac i ddysgu mwy am y gwobrau.

Os bydd arnoch angen ysbrydoliaeth, gwyliwch straeon enillwyr y llynedd.

Rhaid cyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobrau Tiwtoriaid Ysbrydoli! erbyn y dyddiad cau sef 8 Ionawr 2021.

Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! 2021

Cewch enwebu unigolion, teuluoedd, prosiectau a sefydliadau y bydd eu llwyddiannau wrth ddysgu yn ysbrydoli eraill i ddychwelyd at ddysgu neu i droi ato – pobl sydd wedi gwella eu bywydau nhw a/neu fywydau pobl eraill ac wedi cael profiad cadarnhaol neu un sydd wedi trawsnewid eu bywyd trwy ddysgu fel oedolion.

Categorïau 2021:

Gwobrau Unigolion a Theuluoedd

  • I Mewn i Waith
  • Oedolion Ifanc
  • Newid Bywyd a Chynnydd
  • Iechyd a Llesiant
  • Heneiddio’n Dda
  • Cychwyn Arni – Dechreuwyr Cymraeg
  • Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol
  • Dysgu fel Teulu
  • Sgiliau Hanfodol Bywyd (Categori NEWYDD)

Gwobrau i Brosiectau a Sefydliadau

  • Prosiect Effaith Gymunedol
  • Sgiliau yn y Gwaith

Ewch i wefan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru i weld y canllawiau a’r ffurflen gais ac i ddysgu mwy am y gwobrau.

Rhaid cyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! erbyn y dyddiad cau sef 19 Chwefror 2021

Os bydd arnoch angen ysbrydoliaeth, edrychwch ar straeon enillwyr y gorffennol.

Help to raise awareness of the awards by circulating our taflen.

Ebostiwch: inspire@learningandwork.org.uk os oes gennych ryw gwestiwn am y broses enwebu.

Byddwch yn rhan o’r dathliad a rhannu’ch straeon ar gyfer y gwobrau trwy gyflwyno cais – dylai pob enwebiad a gyflwynir fod yn hwb i ddathlu addysg oedolion. Defnyddiwch y gwobrau hyn fel cyfle i ddathlu llwyddiant ardderchog y sawl rydych yn ei enwebu trwy gynnal seremoni yn lleol neu’n rhanbarthol a thrwy ymuno â gŵyl ehangach Wythnos Addysg Oedolion.

Diolch i’n partneriaid: NTfW, Colegau Cymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Prifysgolion Cymru a Phartneriaeth Addysg Oedolion Cymru am barhau i gefnogi’r gwobrau:

www.sefydliaddysguagwaith.cymru

More News Articles

  —