Gyrfa’n paentio ac addurno’n dod â lliw i fywyd Shannon sydd â’i golwg ar wobr

Postiwyd ar gan NTfW Admin

English | Cymraeg

Shannon Harding yn breuddwydio am yrfa yn paentio ac addurno

Shannon Harding yn breuddwydio am yrfa yn paentio ac addurno

Celf oedd hoff bwnc Shannon Harding, 18 oed, o Ferthyr Tudful, yn yr ysgol a dyna sydd wedi’i harwain at yrfa yn paentio ac addurno.

Bu’n llwybr anodd i Shannon ei ddilyn, wrthi iddi adael gofal plant a chefnogaeth gweithiwr cymdeithaol, a dewis cwrs coleg anaddas sef iechyd a harddwch. Bu hefyd yn cael pyliau o orbryder ac iselder ers amser.

Ond trwy’r darparwr hyfforddiant PeoplePlus Cymru – Canolfan Merthyr Tudful, mae Shannon wedi canfod hyfforddiant sy’n cydnabod ei trhafferthion ac sydd wedi’i helpu i ddatblygu ei sgiliau a meithrin hyder.

Yn awr, mae Shannon wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1) yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae cwrs Hyfforddeiaeth (Lefel 1) Shannon yn cynnwys modiwlau mewn Ymwybyddiaeth o Beryglon yn y Gweithle, Dyfarniad Cyflogadwyedd, Sgiliau Hanfodol Gwaith a Bywyd, a Lefel 1 Iechyd a Diogelwch yn yr Amgylchedd Adeiladu.

Cafodd yr holl gymwysterau hyn eu teilwra i helpu Shannon i gael lleoliadau gwaith, ac yn y pen draw, swydd. Mwynhaodd leoliad gyda Cbd Decorators, Merthyr Tudful, sydd wedi rhoi blas iddi ar waith paentio ac addurno.

Dywedodd Rheolwr PeoplePlus, Joanne Southall: “Mae gan Shannon anawsterau o-ddydd-i-ddydd, ond dyw hi byth yn ildio. Mae’n ddawnus iawn, yn gwrtais ac yn gweithio’n galetach na neb arall dwi’n ei nabod.

“Mae’n goleuo ystafell ac yn haeddu’r gorau. Rwy’n gwybod y bydd Shannon yn mynd yn bell a byddwn ni yno bob amser i’w chefnogi.”

Dywedodd Shannon: “Rwy wedi dysgu cymaint o dan arweiniad PeoplePlus. Rwy’n dal i gael pyliau o orbryder ac iselder ond mae mynd allan o’r tŷ bob dydd yn gwneud pethau’n haws.

“Rwy wrth fy modd yn paentio ac addurno. Hoffwn i wneud prentisiaeth a dechrau fy musnes fy hunan rhyw ddiwrnod. Dyna yw fy mreuddwyd.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Shannon a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr dysgu a hyfforddeion.”

More News Articles

  —