Hyfforddeiaeth yn helpu James i godi eto ar ôl cyrraedd y gwaelod

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

James Carter ITEC 29 - press

Mae James Carter, 18 oed, yn cael trefn ar ei fywyd eto ar ôl cyfnod gwael pryd y bu’n ddigartref am saith wythnos, camddefnyddio sylweddau a threulio diwrnod yn y carchar.

Y trobwynt i James, 18 oed, o Gasnewydd, oedd pan gyflwynodd Gyrfa Cymru ef i’r rhaglen Hyfforddeiaeth: Ymgysylltu gydag Itec Skills and Employment. Dechreuodd fynd i’r afael â’r rhwystrau a’r heriau enfawr oedd wedi’i wynebu ers iddo gael ei roi i’w fabwysiadu pan oedd yn fachgen bach.

Erbyn hyn mae’n gweithio tuag at NVQ Lefel Un mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Hyfforddeiaeth Lefel Un mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fel rhan o’i gymhwyster, mae’n fentor ieuenctid gydag Itec ac yn llysgennad elusen.

Yn awr, cafodd ei ymdrechion eu cydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Nadolig diwethaf, bu James a Hyfforddeion Ymgysylltu eraill yn casglu sachau cysgu, dillad, pethau ymolchi a bwyd ac yn helpu i goginio prydau poeth i bobl lai ffodus na nhw yn Lloches Eden Gate i’r Digartref, Casnewydd.

“Fe ges i fagwraeth anodd iawn ac, er fy mod wedi cael trafferthion mawr roeddwn i bob amser yn awyddus i gael trefn ar fy mywyd,” meddai James. “Nawr mae gen i rywbeth i ganolbwyntio arno ac rwy wedi dechrau gweld gwerth ynof fy hunan. Rwy’n benderfynol o lwyddo drosof fy hunan.

“Os gall fy stori i helpu pobl ifanc eraill i ddod trwy’r cyfnodau gwael, rwy wedi llwyddo’n barod.”

Dywedodd Irene Webber, anogwr dysgu James yn Itec: “Mae James wedi bod trwy gymaint yn ifanc ond mae’n dal yn treulio llawer o’i amser yn helpu pobl eraill. Rydyn ni wir yn credu mai’r rhaglen Hyfforddeiaeth a achubodd ei fywyd.

“Trwy gyfuno’i gymwysterau a’i dwf personol arbennig, mae stori James yn enghraifft berffaith o’r ffordd y gall y rhaglen Hyfforddeiaethau roi ystyr a ffocws i fywyd person ifanc, gan wneud iddynt gredu ynddynt eu hunain ac edrych i’r dyfodol yn obeithiol.”

Wrth longyfarch James ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —