Hyfforddiant yn gwneud y byd o wahaniaeth i Joshua

Postiwyd ar gan karen.smith

Joshua O'Leary

Joshua O’Leary

English | Cymraeg

Mae Joshua O’Leary yn ddyn ifanc 19 oed hyderus sy’n edrych i’r dyfodol, mae ganddo swydd a gobaith am yrfa dda. Mae hynny’n wahanol iawn i’r bachgen oedd yn cael ei fwlio yn yr ysgol, yn cael trafferthion oherwydd dyslecsia a lletchwithdod ac a gafodd gyfnod o iselder ar ôl hunanladdiad ei ffrind gorau.

Hyfforddiant yw’r allwedd sydd wedi arwain at y newid mawr hwn. Mae wedi rhoi hwb mawr i’w hyder a’i hunan-fri, gan ei helpu i gyrraedd ei nod o golli bron bum stôn o bwysau sy’n golygu ei fod wedi gallu codi cannoedd o bunnau wrth redeg er budd elusennau.

Erbyn hyn, mae Joshua wedi’i gydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trwy’r darparwr hyfforddiant PeoplePlus o Ferthyr Tudful a’i swydd gydag Elite Paper Solutions ym Mhentre-bach, llwyddodd Joshua i gwblhau Rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1 ym mis Ionawr eleni, ar ôl gwneud NVQ Lefel 1 mewn Gwaith Warysau a Storio yn Y Coleg, Merthyr Tudful. Mae’n symud ymlaen yn awr i Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Warysau.

Dywedodd yr hyfforddwr gyda PeoplePlus, Carol Williams: “Mae Joshua wedi dangos penderfyniad ac ymroddiad ym mhob rhan o’i waith. Rwy mor falch ohono.”

Dywedodd Joshua sy’n byw yn Nhredegar: “Mae PeoplePlus wedi fy nghefnogi ac wedi fy helpu i oresgyn rhwystrau, a doedd hynny ddim yn hawdd. Ond rwy’n falch ohonof fy hunan yn dod mor bell ac yn gadael y dyddiau hynny o fwlio a diffyg hunan-fri y tu ôl i mi.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Joshua ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —