Llysgennad yn awyddus i hyrwyddo prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Iestyn Morgan, Llysgennad Prentisiaethau.

Roedd cael gwneud ei brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i Iestyn Morgan sydd wedi cael ei holl addysg a hyfforddiant hyd yma yn ei iaith gyntaf.

Mae Iestyn, 25, rheolwr y bar yng ngwesty llwyddiannus yr Harbwrfeistr yn Aberaeron, wedi cwblhau ei Brentisiaeth mewn Arweinyddiaeth a Goruchwyliaeth Lletygarwch gyda Hyfforddiant Cambrian ac mae’n ystyried symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch.

Oherwydd ei frwdfrydedd dros yr iaith Gymraeg a phrentisiaethau, cafodd ei benodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

“Cymraeg yw fy iaith gynta a dyna rwy’n mwynhau ei siarad gartre, yn y gwaith a gyda ffrindiau,” meddai Iestyn. “Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod cyfleoedd ar gael i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac, wrth fod yn Llysgennad Prentisiaethau, rwy’n gallu dangos i brentisiaid eraill ei bod yn bosibl.

“Mae fy mhrentisiaeth wedi gwella fy sgiliau ym mhob agwedd ar fy ngwaith yn yr Harbwrfeistr a’r tu allan. Mae wedi fy ngwneud yn fwy hyderus ac wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o fy swydd a sut i arwain tîm.”

Ar ôl gadael yr ysgol â dwy Lefel A, BTEC mewn Technoleg Cerddoriaeth a Bagloriaeth Cymru, treuliodd Iestyn flwyddyn gap yn gweithio yn yr Harbwrfeistr cyn mynd i wneud Gradd mewn Technoleg Cerddoriaeth.

Oherwydd ei gariad at Geredigion, daeth yn ôl i Aberaeron a chael ei swydd lawn-amser bresennol. Yn ogystal â’i waith, mae’n chwarae cerddoriaeth bop acwstig yn Gymraeg gyda Gwenno, ei chwaer, ac mae’n chwarae mewn band gyda ffrindiau o’r brifysgol.

Cyn cyfnod clo Covid-19, llwyddodd Iestyn i gyfuno’i waith a’i ganu pan gafodd ef a Gwenno gyfle i gefnogi Bryn Fôn mewn perfformiad yn yr Harbwrfeistr.

Dywed Iestyn ei fod yn hapus i symud ymlaen â’i yrfa ym myd lletygarwch yn yr Harbwrfeistr ond bod ganddo un llygad ar gyfleoedd i recordio, cynhyrchu a gwneud gwaith theatr er mwyn defnyddio’i sgiliau ym myd technoleg cerddoriaeth.

Roedd yn canmol y gefnogaeth a gafodd gan y swyddog hyfforddiant Hazel Thomas yn Hyfforddiant Cambrian a enwebodd ef i fod yn Llysgennad Prentisiaethau.

“Mae Iestyn yn Llysgennad ardderchog dros y Gymraeg a gall annog dysgwyr eraill sy’n awyddus i wneud prentisiaeth yn eu mamiaith,” meddai hi. “Gyda’r platfform dysgu a ddefnyddiwn ni yn Hyfforddiant Cambrian, gall y dysgwyr gyfieithu eu gwaith i’w dewis iaith wrth gyffwrdd botwm, diolch i’r ddyfais gyfieithu newydd a ychwanegwyd at y Cynorthwyydd Dysgu.

“Er mwyn cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o filiwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050, mae’n rhaid i ni roi cyfle i brentisiaid ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a gall y sgìl honno eu helpu i gael gwaith.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, yw helpu darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i gynnig rhagor o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r ail flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Ariannir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —