Ifan y briciwr yn adeiladu at y dyfodol gyda phrentisiaethau dwyieithog

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ifan Williams gyda’i dad, Meurig, wrth eu gwaith.

Mae briciwr o’r enw Ifan Williams, sydd wedi ennill cyfres o fedalau aur, arian ac efydd mewn cystadlaethau dros y tair blynedd ddiwethaf, yn fodel rôl ac yn llysgennad prentisiaethau dwyieithog gyda’r CITB yng Nghymru.

Mae’r bachgen dawnus a diymhongar 19 oed o Langwnnadl, Llŷn, yn gweithio i’w dad, Meurig, sy’n bartner yng nghwmni adeiladu cyffredinol M & W Williams Ltd ym Motwnnog.

Mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth dwyieithog mewn Gwaith Brics gyda’r CITB trwy Goleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau ac wedi gwneud enw iddo’i hun mewn cystadlaethau gosod brics yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Defnyddiodd Ifan ei iaith gyntaf, sef Cymraeg, a Saesneg ysgrifenedig wrth gwblhau’r cymwysterau a chafodd ei enwi’n Brentis y Flwyddyn CITB yng Nghymru yn 2018.

Cafodd ei lwyddiant cystadleuol diweddaraf fis Tachwedd diwethaf yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2018 UK lle’r enillodd fedal arian am osod briciau. Roedd eisoes wedi ennill medalau aur yng nghystadleuaeth Skillbuild Rhanbarthol Gogledd Cymru a gornest Sector Cymru y Guild of Bricklayers yn 2018.

Canfuwyd yn yr ysgol bod ffurf ysgafn ar ddyslecsia arno, oedd yn golygu na allai ganolbwyntio ar ei waith, ond mae wedi synnu hyd yn oed ei dad wrth symud ymlaen mor dda yn y diwydiant adeiladu.

“Dwi’n rhyfeddu at ei lwyddiant, i ddweud y gwir,” meddai Meurig. “Rydan ni’n gweithio mewn ardal wledig ac mae wedi gwneud yn dda iawn i gael y fath sylw. Mae Ifan wedi bod yn gweithio efo mi er pan oedd yn fach iawn ac mae wedi dysgu’r sgiliau yn naturiol, Dydi hi ddim yn ymddangos fel pe bai’n straen arno i gael yr holl lwyddiant hyn.

“Mae wedi cael help mawr gan y coleg a’r CITB. “Dwi’n credu ei bod yn bwysig iawn bod prentisiaid fel Ifan yn cael y cyfle i ddysgu’n ddwyieithog achos rydan ni’n ymwneud â chleientiaid Cymraeg a rhai Saesneg eu hiaith yn y busnes.”

Dywedodd Ifan ei fod yn mwynhau dilyn yn ôl traed ei dad a’i fod yn ddiolchgar am y cyfle i weithio tuag at y prentisiaethau mewn gosod brics yn y coleg.

“Roedd yn haws i mi wneud y cymwysterau’n ddwyieithog achos ro’n i’n meddwl y byddai’n anodd eu gwneud yn Gymraeg yn unig,” meddai. “Roedd y coleg a’r CITB yn dda iawn wrtha i.

“Dwi wedi gorffen â’r cystadlaethau erbyn hyn ac wedi gadael y coleg ac rwy’n mwynhau symud ymlaen â’r gwaith adeiladu.”

Ei gyngor i bobl sy’n gadael yr ysgol yr haf yma ac yn chwilio am yrfa yw iddynt ystyried prentisiaeth ddwyieithog. “Gallwch ennill arian wrth ddysgu ac fe gewch chi benderfynu ym mha iaith i wneud y brentisiaeth,” meddai.

Dywedodd rheolwr cyflenwi’r CITB yng Nghymru, Paul Marsh: “Mae Ifan wedi rhagori wrth ei waith ac yn y coleg ac mae ei sgiliau’n cyfateb i anghenion y diwydiant adeiladu heddiw.

“Roedd ei allu i wneud ei gymwysterau’n ddwyieithog yn elfen hanfodol yn ei daith ddysgu ac mae wedi talu ar ei ganfed iddo.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yw helpu darparwyr hyfforddiant ar gyfer prentisiaethau i geisio gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae NTfW yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymwysterau Cymru a nifer o randdeiliaid eraill i wella darpariaeth ac argaeledd cymwysterau Cymraeg a dwyieithog er mwyn gwireddu’r weledigaeth o Gymru ddwyieithog.”

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Dyma stori sy’n dangos pa mor bwysig ac anghenrheidiol yw cynnig y Gymraeg ym maes prentisiaethau. Wrth i ni geisio cyrraedd nod y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae creu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle yn amhrisiadwy.

Er bod y ffigyrau yn dangos bod y nifer sydd yn astudio prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymharol isel, mae’n dda gweld datblygiadau cadarnhaol i wella’r cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd, byddwn fel swyddfa yn gweithio i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith. Byddwn yn gweithio gyda busnesau, elusennau a sefydliadau i sicrhau bod y siaradwyr Cymraeg sy’n gadael y system addysg a’r bobl sy’n dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol yn gallu defnyddio eu sgiliau; a bod sefydliadau hefyd yn gweld gwerth i’r iaith.”

More News Articles

  —