Dydi hi byth yn rhy hwyr i chi newid eich gyrfa, meddai Samantha

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Roedd Samantha Pockett yn gweithio fel Rheolwr Manwerthu ond, ar ôl cael ei gwneud yn ddi-waith, penderfynodd ei bod yn bryd newid gyrfa a gwneud rhywbeth oedd yn rhoi pleser iddi.

Samantha'n sefyll wrth risiau yn y gampfa

Prentis Samantha Pockett

Gan ei bod yn frwd dros gadw’n heini, dechreuodd weithio fel prentis cynorthwyydd campfa yn One to One Gym, lle mae’n gweithio tuag at gymhwyster Hyfforddiant Campfa Active IQ Lefel 2.

Ar y dechrau, roedd hi’n poeni am y llwyth gwaith, am fod yn fyfyrwraig aeddfed, ac yn fam. Fodd bynnag, gyda chymorth ei thiwtor, mae Samantha wedi dysgu llawer ac mae’n gallu rheoli ei gyrfa, ei gwaith astudio, a’i bywyd cartref yn llwyddiannus.

Dywedodd ei thiwtor fod Samantha yn frwd a’i bod wrth ei bodd yn dysgu.

Ar ôl cwblhau Lefel 2, hoffai Samantha ddechrau ar Lefel 3, er mwyn adeiladu ar ei sgiliau a chyrraedd ei llawn botensial fel hyfforddwr campfa.

Dywedodd Samantha “Rydw i wir eisiau cael fy nghleientiaid fy hunan a helpu cymaint o bobl ag y gallaf.

“Cyn gynted ag y dowch o hyd i lwybr gyrfa, dechreuwch cyn gynted ag y gallwch a dal ati.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru neu ffoniwch 0800 028 4844.

I gael gwybod sut y gall eich busnes elwa o gymryd prentis neu uwchsgilio’ch gweithlu presennol, llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb ar wefan Busnes Cymru.

ITEC Skills and Employment

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —