Itec yn rhoi taliad costau byw o £500 i’w gweithwyr

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Portrait image of Ceri Murphy, Managing Director Itec Skills and Employment

Ceri Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr Itec Skills and Employment

Mewn cyfnod o bryder am y cynnydd mewn costau byw, mae Itec Skills and Employment, Caerdydd, darparwr blaenllaw ym maes rhaglenni dysgu seiliedig ar waith, wedi rhoi taliad untro o £500 i helpu eu gweithwyr â’r cynnydd mewn costau byw, ynni a bwyd.

Gan eu bod yn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr (EOT), roeddent yn gallu cynnig y taliad hwn o £500 i’w staff yn gwbl ddi-dreth. Rhoddwyd y taliad i aelodau’r staff a fu’n gyflogedig yn y cwmni ers Hydref 31, 2022 ac mae’n un o’r nifer o ffyrdd sydd ganddynt o gefnogi eu gweithwyr a’u teuluoedd a helpu i gynnal eu hagwedd bobl-ganolog.

Mae Itec yn falch o ddweud mai nhw oedd y darparwr hyfforddiant annibynnol cyntaf yng Nghymru i fod ym mherchnogaeth y gweithwyr, yn 2019, ac erbyn hyn mae 100% o’r busnes yn eiddo i’w gweithwyr-berchnogion. Mae Itec yn cyflogi 180 o bobl mewn 12 swyddfa ledled Cymru, pob un ohonynt yn elwa ar y model EOT sy’n cynnwys cyfran bersonol yn y cwmni a gwobrau a seilir ar gyflawniad.

Dywedodd Ceri Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr Itec:

“Un peth a wnaeth ein hysgogi i sefydlu Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr (EOT) oedd y ffaith ein bod yn awyddus i annog diwylliant o undod. Hoffem adeiladu ar y diwylliant hwnnw fel y gallwn barhau i greu swyddi, adeiladu gyrfaoedd, a buddsoddi mewn pobl.

“Pwy bynnag ydych chi, ar ba lefel bynnag rydych chi yn y busnes, mae gennych chi yr un faint o hawl â phawb arall. Mae’n ffordd o gadw ein staff a’u gwobrwyo am eu gwaith caled neu, yn yr achos hwn, eu cefnogi mewn cyfnod heriol.”

Yn ogystal â gwneud eu gwaith yn fwy ystyrlon, mae’r model EOT yn dangos i weithwyr Itec sut mae eu cyflawniadau personol yn arwain at lwyddiant a thwf y busnes cyfan. Mae rhoi’r sefydliad yn nwylo gweithwyr sydd â’r un gwerthoedd, ethos a diwylliant â’i sylfaenwyr yn helpu i sicrhau cadernid ac annibyniaeth Itec yn y tymor hir.

Dywedodd Julie Dyer, Pennaeth Gweithrediadau Itec:
“Ledled y wlad mae costau byw cynyddol yn achosi trafferthion i bobl ac roedden ni’n awyddus iawn i helpu i leddfu pryderon ein staff. Mae’r taliad costau byw hwn yn ffordd i ni ddangos i’n gweithwyr bod eu lles yn bwysig i ni a’n bod yn gofalu amdanynt.

“Mae ein gwaith wedi gwneud lles mawr i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a gwahaniaeth enfawr i fywydau’r rhai sy’n cymryd rhan yn ein cynlluniau, diolch i’n diwylliant pobl-ganolog. Gobeithio y gallwn barhau i helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial gyda chymorth ein staff gweithgar ac ymroddedig.”

Mae gan Itec hanes hir o gynnig rhaglenni hyfforddi a dysgu seiliedig ar waith, gyda dros 40 mlynedd o brofiad yn y maes.

Yng Nghymru, mae ganddynt bartneriaeth gref gyda Llywodraeth Cymru a chontract i ddarparu rhaglen Twf Swyddi Cymru+, sy’n werth £200m, a’r rhaglen Ailgychwyn. Yn ogystal â’r rhaglenni hyn, maent yn cynnig amrywiaeth eang o brentisiaethau ledled Cymru i helpu pobl i ddatblygu sgiliau ac ennill cymwysterau.

Mae gan Itec lawer o gysylltiadau a chontractau hyfforddiant masnachol yn Llundain, sy’n cynnig hyd yn oed ragor o gyfleoedd i bobl ddatblygu eu gyrfaoedd trwy brofiadau dysgu ymarferol.

Itec Skills and Employment

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —