Cefnogaeth un-i-un ei fentor yn helpu Jamie i saernïo gyrfa mewn gwaith coed

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Jamie Hopkins, gyrfa mewn gwaith coed cywrain o’i flaen.

Cafodd Jamie Hopkins ei fwlio’n ddrwg yn yr ysgol ac felly gadawodd heb gymwysterau. Cymerodd bedair blynedd iddo ailddarganfod ei gariad at ddysgu, a hynny diolch i’r gefnogaeth a gafodd ar hyfforddeiaeth gydag Itec.

Mae Jamie, 20, o Beachley, ger Cas-gwent, yn saernïo eitemau mewn gweithdy yn ei gartref fel hobi gan ddefnyddio’r sgiliau a ddysgodd a’i nod yw cael gyrfa’n gwneud gwaith saer cywrain.

Yn awr, mae Jamie wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1) yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Doedd gan Jamie ddim syniad pa lwybr gyrfa i’w ddilyn pan aeth at Itec i ddechrau ond dangosodd ddawn naturiol i weithio â phren.

Oherwydd ei brofiad yn yr ysgol, roedd sesiynau grwpiau’n anodd iddo, felly dechreuodd goruchwyliwr y gweithdy adeiladu, John Smith, ei diwtora un-i-un er mwyn meithrin ei sgiliau a’i hunanhyder ac mae hynny wedi talu ar ei ganfed.

Er gwaethaf heriau Covid-19, llwyddodd Jamie i greu gweithdy yn ei gartref a, gyda rhagor o gefnogaeth ac arweiniad gan John, dechreuodd wneud anrhegion unigol a’u gwerthu mewn siop leol.

Yn ogystal, bu gan Jamie ran flaenllaw ym mhrosiect ‘Anrheg Nadolig’ Itec, gan godi arian ar gyfer plant agored i niwed a phrynu hamperi bwyd ar gyfer teuluoedd mewn angen.

Mae Jamie, sy’n gobeithio cael prentisiaeth gyda busnes lleol, yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 1 Gwaith Coed yng Ngholeg Gwent, Casnewydd.

Roedd yn llawn canmoliaeth i gefnogaeth y tiwtor, John, ac meddai, “Itec wnaeth fy nghyflwyno i waith coed ac roedd John yn gwybod yn union beth ro’n i eisiau ei wneud. Mae mor dda gyda phobl ac yn berson hyfryd. Mae arna i eisiau dysgu gymaint ag y galla i nawr.”

Dywedodd John: “Mae Jamie’n ddysgwr ardderchog; mae’n garedig, yn barod i helpu a bob amser yn barod i gefnogi ac ysbrydoli’r dysgwyr eraill. Er iddo adael yr ysgol yn gynnar, dydi e ddim wedi digalonni; mae wedi dal ei ben yn uchel ac mae ganddo agwedd gadarnhaol ac ymarferol. Erbyn hyn, mae’n ddyn ifanc cydwybodol, hyderus ac ymroddedig ac mae dyfodol disglair o’i flaen.”

More News Articles

  —