Jess yn brentis sy’n datblygu gyrfa’i breuddwydion trwy gyfrwng y Gymraeg

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Jess Prince.

Mae Jess Prince yn brentis sydd wedi cael swydd ei breuddwydion mewn ysgol gynradd yn Ninbych-y-pysgod diolch i addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Jess, 23 oed, o Saundersfoot, yn paratoi i gychwyn ar ei thrydedd flwyddyn yn gynorthwyydd cymorth dysgu mewn ysgol gynradd Gymraeg – Ysgol Hafan y Môr.

Ymunodd â’r ysgol ar ôl cwblhau cwrs Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn mae hanner ffordd trwy Brentisiaeth mewn Gofal Plant, a gyflwynir yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg gan Goleg Sir Benfro. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Daw naw deg chwech y cant o ddisgyblion Ysgol Hafan y Môr o gartrefi di-Gymraeg ond mae eu rhieni’n gefnogol iawn i’r ysgol; mae nifer y disgyblion wedi cynyddu o 109 i 173 ers iddi agor bron dair blynedd yn ôl.

Dywedodd Jess bod ei rhieni bob amser wedi’i hannog i ddewis addysg a hyfforddiant Cymraeg er nad ydyn nhw’n siarad yr iaith. Bu mewn ysgolion Cymraeg ac roedd yn awyddus i barhau â’i haddysg a’i hyfforddiant yn yr iaith.

“Os ydych yn siarad Cymraeg, gall agor llawer o ddrysau i chi ac mae dysgu trwy gyfrwng yr iaith yn dod yn fwy naturiol i mi erbyn hyn,” esboniodd. “Rwy am gario ymlaen i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac rwy’n meddwl bod ei fod yn syniad da i annog pobl sy’n dymuno gwneud eu prentisiaeth yn y Gymraeg.

“Mae gwneud prentisiaeth yn Gymraeg yn eich helpu â’ch Cymraeg ysgrifenedig ac mae hynny’n bwysig achos mae’n wahanol i Gymraeg llafar.”

Dydi hi ddim wedi penderfynu pa gymhwyster i’w wneud nesaf ar ôl cwblhau’r brentisiaeth ond mae’n awyddus i symud ymlaen a gallai ystyried dilyn cwrs i fod yn athrawes yn y dyfodol.

“Rwy wrth fy modd yn fy ngwaith achos dwi’n mwynhau gweld plant yn dysgu ac yn symud ymlaen trwy’r ysgol,” meddai Jess, sy’n symud ymlaen o helpu yn nosbarth y plant lleiaf i Gyfnod Allweddol 2 ym mis Medi. “Rwy’n gwneud y brentisiaeth er mwyn bod cystal ag y gallaf ar gyfer y plant.”

Dywedodd pennaeth Jess, Vicky Griffiths: “Mae Jess yn enghraifft wych fod addysg Gymraeg yn gweithio. A hithau’n dod o gartref di-Gymraeg, mae wedi symud ymlaen trwy addysg Gymraeg ac mae’n gweithio mewn ysgol lle mae’n gallu talu yn ôl am beth a gafodd.

“Bu ei haddysg Gymraeg yn amhrisiadwy i’n hysgol ni a bydd ei Phrentisiaeth mewn Gofal Plant yn ychwanegiad gwerthfawr oherwydd bydd yn gallu gweithio yn ein Cylch Meithrin lle mae gennym restr aros. Cafodd gefnogaeth ardderchog gan Goleg Sir Benfro i ddysgu yn y gweithle.

“Mae recriwtio athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu sy’n siarad Cymraeg yn anodd iawn yn ein hardal ni. Felly, mae’n hollbwysig parhau i addysgu a hyfforddi pobl trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Er mwyn darparu’r brentisiaeth, mae aelodau o staff Coleg Sir Benfro yn gweithio fel tîm. Caiff gwaith Jess ei farcio gan Janice Morgan, swyddog datblygu’r Gymraeg, ac mae hi’n cyfieithu crynodeb ohono ar gyfer yr asesydd di-Gymraeg, Michelle Grove.

“Mae Jess yn gwneud ei hasesiad trwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn ceisio annog rhagor o ddysgwyr i wneud hynny,” meddai Janice. “Roedd am sicrhau ei bod yn gallu gweithio’n iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg oherwydd daw llawer o’i disgyblion o gartrefi di-Gymraeg.

“Pan fydd gennym brentisiaid sy’n gweithio mewn awyrgylch Cymraeg, rydym yn eu hannog i wneud rhai elfennau o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’n bwysig iawn bod pobl fel Jess yn parhau i ddefnyddio’r Gymraeg a datblygu eu sgiliau er mwyn cynnal eu hyder a defnyddio’r iaith yn fedrus yn y gwaith. Os na ddefnyddiwch y iaith, byddwch yn ei cholli.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yw helpu darparwyr hyfforddiant ar gyfer prentisiaethau i geisio gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae NTfW yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymwysterau Cymru a nifer o randdeiliaid eraill i wella darpariaeth ac argaeledd cymwysterau Cymraeg a dwyieithog er mwyn gwireddu’r weledigaeth o Gymru ddwyieithog.”

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Dyma stori sy’n dangos pa mor bwysig ac anghenrheidiol yw cynnig y Gymraeg ym maes prentisiaethau. Wrth i ni geisio cyrraedd nod y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae creu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle yn amhrisiadwy.

Er bod y ffigyrau yn dangos bod y nifer sydd yn astudio prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymharol isel, mae’n dda gweld datblygiadau cadarnhaol i wella’r cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd, byddwn fel swyddfa yn gweithio i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith. Byddwn yn gweithio gyda busnesau, elusennau a sefydliadau i sicrhau bod y siaradwyr Cymraeg sy’n gadael y system addysg a’r bobl sy’n dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol yn gallu defnyddio eu sgiliau; a bod sefydliadau hefyd yn gweld gwerth i’r iaith.”

More News Articles

  —