Cydweithio er mwyn newid

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Portrait image - Alyson Nicholson, Director Jisc Wales

Alyson Nicholson, Cyfarwyddwr Jisc Cymru

Mae gan y sector ôl-16 yng Nghymru hanes cryf a chynhyrchiol o gydweithio a pharodrwydd gwirioneddol i gydweithredu er mwyn sicrhau canlyniadau llwyddiannus, cyfle cyfartal a gwasanaeth da.

Dros y blynyddoedd diwethaf, bu’r sector yn cydweithio ar nifer o brosiectau strategol ac ymarferol a gefnogir gan Jisc a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru. Yn 2019 crëwyd Fframwaith Digidol 2030. Yn 2020 buom yn cydweithio i ddatblygu’r cwrs addysgeg ddigidol, “addysgu crefftus; dysgu gweithredol,” a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y sector dysgu seiliedig ar waith gyda’r bwriad o adfer rhagoriaeth yng ngwaith addysgu prentisiaethau.

Yn 2021, ochr yn ochr â’r rhwydwaith Digital Diamonds, aethom ati i gyd-greu a chyhoeddi adnoddau o safon uchel i gefnogi’r gwaith o gyflenwi cyrsiau Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru. Yna, yn 2022, mewn ymateb i adolygiad thematig Estyn, Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol, bu cynrychiolwyr o’r sector yn cydweithio â Jisc i ddatblygu a threialu cyfres o weithdai dylunio dysgu, ac adnoddau y gellid eu defnyddio i gefnogi dysgu proffesiynol anghydamserol.

Hyd yn oed yn fwy diweddar, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Jisc wneud darn o ymchwil yn edrych ar arferion cydweithredol yn y sector. O fewn yr wythnosau nesaf, bydd Jisc yn cyhoeddi cyfres o astudiaethau achos, gan gyflwyno enghreifftiau o gydweithio mewn addysgu a dysgu a’r elfennau a wnaeth y cynlluniau hyn mor llwyddiannus.

Mae un o’r enghreifftiau’n esbonio sut y creodd Educ8 a CEMET, y Ganolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol (rhan o Brifysgol De Cymru), adnodd dysgu realiti-rhithwir (VR) ar gyfer prentisiaid trin gwallt sy’n astudio lliwio gwallt.

Yn yr achos hwn, ddefnyddir VR i efelychu technegau yn y byd go iawn, i wella dysgu ac i ddeall canlyniadau gwneud rhywbeth yn anghywir heb y trawma o wynebu hynny’n digwydd go iawn.

Mae technolegau datblygol fel VR, sy’n newid addysg er gwell, yn cael eu defnyddio fwyfwy mewn ystafelloedd dosbarth a gweithdai ac mewn gwahanol sefyllfaoedd i wella’r profiad dysgu. Er enghraifft, myfyrwyr chwaraeon yng Ngholeg y Cymoedd yn ymarfer penio’r bêl heb iddo achosi cyfergyd, weldio rhithwir yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot a hyd yn oed ysbyty digidol cyflawn i fyfyrwyr meddygol wedi’i chreu gan Brifysgol Caerdydd.

Yn fwy diweddar, mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) wedi arwain at newid arall. Mae’r dechnoleg hon, er nad yw’n newydd, wedi cyrraedd y penawdau’n ddiweddar gyda chewri byd technoleg fel Microsoft a Google yn ystyried ymgorffori AI yn eu platfformau. Er ein bod yn gyfarwydd erbyn hyn â Chatbots a Chynorthwywyr Digidol, pa mor gyfforddus ydyn ni â defnyddio AI ar gyfer marcio ac adborth a beth yw’r posibiliadau? Beth yw potensial AI ar gyfer cynllunio, dysgu cydweithredol, creu cynnwys neu gyflogadwyedd? Beth yw’r effaith ar asesu?

Cefndir digidol i gyfleu technolegau arloesol deallusrwydd artiffisial (AI) – systemau artiffisial, rhyngwynebau niwral a thechnolegau dysgu peirianyddol y rhyngrwyd

Diben canolfan genedlaethol Jisc ar gyfer AI mewn addysg drydyddol yw helpu’r aelodau i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn effeithiol ac mae wedi paratoi adroddiad AI in Tertiary Education sy’n ceisio ateb cwestiynau fel y rhain, ynghyd â rhoi cipolwg ar ddyfodol AI mewn addysg. Mae yna hefyd ganllawiau llawn gwybodaeth a blogiau, a gallwch archwilio’r hyn sydd gan AI i’w gynnig trwy nifer o arddangosiadau rhyngweithiol.

Mae canolfan genedlaethol AI wedi sefydlu grŵp cymunedol lle gall aelodau rannu arferion gorau; gwersi a ddysgwyd; gofyn ac ateb cwestiynau am AI a’r defnydd a wneir ohono mewn addysg; a chysylltu â’i gilydd i ganfod atebion cyffredin i broblemau a rennir.

Sut allwn ni ddal ati i gydweithio i sicrhau ein bod yn gwneud i AI weithio drosom?

Os hoffech wybod mwy am y technolegau newydd hyn neu sut y gall Jisc gefnogi’ch taith ddigidol, cysylltwch â’ch rheolwr perthynas gyda Jisc.

Jisc Cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —