Karen yn ysbrydoli dysgwyr cyfrifeg i gyflawni eu potensial

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Karen Richards – dysgu’r genhedlaeth nesaf o gyfrifwyr.

Mae Karen Richards, sy’n diwtor cyfrifeg, yn cyrraedd ei nod o ysbrydoli a chefnogi dysgwyr i gyflawni eu potensial. Mae cyfradd basio o 86% yn golygu bod ei dysgwyr yn ACT, Caerdydd yn gwneud dipyn yn well na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae gan Karen bob amser dros 60 o ddysgwyr ar wahanol gamau o’u hyfforddiant AAT (Association of Accounting Technicians) ac mae’n dysgu mewn gweithdai dydd a rhai gyda’r nos, a hynny ar-lein yn ystod y pandemig.

Karen, sy’n 54, o’r Coed-duon, yw tiwtor a chydlynydd cyfrifeg ACT ers 2016 ac mae’n defnyddio’r cyfoeth o brofiad sydd ganddi i ddysgu Diploma Uwch a Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifeg mewn ffordd ddifyr a hwyliog.

Yn ogystal â hyfforddi ei dysgwyr Lefel 4 hi ei hunan yn ACT, mae Karen yn cynnig cefnogaeth i ddarparwyr dysgu eraill pan fydd eu dysgwyr yn ei chael yn anodd.

Mae ganddi gymwysterau AAT i Lefel 4, Tystysgrif Addysg a Dyfarniad Aseswyr ac mae’n ymroi i ehangu ei gwybodaeth a hybu ei datblygiad proffesiynol yn barhaus.

Yn awr, mae gwaith Karen wedi’i gydnabod wrth iddi gyrraedd y rhestr fer am wobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

A hithau’n frwd o blaid dysgu a’i gwneud yn haws i ddysgwyr ymdopi â chymwysterau AAT, mae Karen yn addasu ei dull o ddysgu ac yn defnyddio gwahanol adnoddau sy’n addas i wahanol ddysgwyr, rhai ohonynt yn wynebu rhwystrau fel dyslecsia a gorbryder.

Rhedodd un dysgwr Lefel 2 allan o arholiad pan gafodd bwl o orbryder ond, gyda chefnogaeth Karen, aeth ymlaen i ennill cymhwyster Lefel 4.

“Mae tiwtor yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu nod, yn gweithredu fel mentor, cheerleader a chlust i wrando,” meddai Karen. “Mae’n sefyllfa freintiedig a gallwch gael effaith bwerus – pa un bynnag a ydych chi’n chwech oed neu’n 60, mae angen profiad o lwyddiant ar bawb ohonom.

“Pan rwy’n derbyn sylwadau fel ‘Wnaeth Karen byth anobeithio amdanaf i, hyd yn oed pan oeddwn i wedi anobeithio amdanaf fy hunan’ mae’n fy atgoffa pam rwy’n dysgu.”

Dywedodd Ann Rees, rheolwr llwybr ddatblygu addysg a chyfrifeg gydag ACT: “Mae gan Karen frwdfrydedd pendant ac agwedd gadarnhaol, ymarferol, sy’n golygu ei bod yn uchel iawn ei pharch gan ACT, ei thîm a’i dysgwyr. Mae wedi gweithio’n ddiflino ar ei datblygiad proffesiynol er mwyn sicrhau y gall ddarparu gwasanaeth rhagorol.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —