Kirsty’n barod i wynebu heriau hyfforddiant

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Kelly Cross of PeoplePlus with trainee Kirsty Redmond and a resident of Fredericks House care home.

Kelly Cross o PeoplePlus gyda Kirsty Redmond ac un o drigolion cartref gofal Fredericks House.

Mae Kirsty Redmond yn ferch ifanc anhygoel sydd wedi wynebu heriau hyfforddiant er bod ganddi gyfrifoldebau mawr iawn gartref hefyd.

Er bod ganddi anawsterau dysgu, Kirsty, 21 oed, yw’r prif ofalwr am ei thad a phlant eraill y teulu, yn cynnwys un brawd sydd ag anabledd difrifol ac sydd mewn cadair olwyn.

Pan oedd Kirsty yn 18 oed, bu farw ei mam a bu’n rhaid iddi hi ysgwyddo’r cyfrifoldeb o ofalu am ei theulu. Oherwydd ei anawsterau dysgu, roedd wedi gadael yr ysgol heb gymwysterau a bu dau gynnig ar hyfforddiant yn aflwyddiannus.

Ond yn 2015, cafodd Kirsty help gan PeoplePlus ym Merthyr Tudful trwy raglen Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) a Lefel 1 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Arweiniodd yr hyfforddiant at swydd gyda Fredericks House, cartref gofal ym Merthyr Tudful, lle mae Kirsty’n rhan fawr o’r tîm ac yn edrych ymlaen at wneud prentisiaeth.

Erbyn hyn, mae wedi’i chydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Dywedodd rheolwr PeoplePlus, Joanne Southall: “Mae Kirsty’n gwneud i fy nghalon i wenu. Mae’n berson mor ofalgar a chefnogol. Rwy’n edrych ar y pethau y mae hi wedi bod trwyddyn nhw a lle mae hi heddiw a’n meddwl ‘Waw’.

“Mae wedi datblygu’n ferch ifanc hyfryd ac mae ei rheolwr yn dweud ei bod hi’n bleser gweithio gyda hi. Mae Kirsty wedi gwneud yr holl hyfforddiant mewnol gyda chymorth ac mae’n awyddus i ddysgu pethau newydd trwy’r amser.Dywedodd Kirsty: “Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n cael swydd o gwbl, heb sôn am y cyfle i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Kirsty ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —