Mae enwebiadau wedi agor ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2022.

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2022

Mae Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru yn galw am enwebiadau ar ran pobl, prosiectau cymunedol a sefydliadau ledled Cymru sy’n dangos y trawsnewid y gall dysgu gydol oes ei wneud ac y mae eu llwyddiannau dysgu yn dangos angerdd, ymrwymiad ac egni rhagorol i newid eu straeon ac ysbrydoli eraill.

Caiff y gwobrau eu dathlu fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Ydych chi’n adnabod dysgwr sy’n ysbrydoli? Gallech fod yn hybu newid yn y gweithle ac yn datblygu cyfleoedd i bobl hyfforddi a sicrhau cynnydd. Ydych chi’n cael argraff o fewn cymunedau lleol – ehangu mynediad i ddysgu a sgiliau? Ydych chi’n gweithio ar brosiectau amgylcheddol neu’n arloesi wrth ddatblygu llwybrau dysgu ar gyfer sgiliau gwyrdd. A yw’ch angerdd am chwaraeon wedi’ch arwain i ddychwelyd i ddysgu? Os oes gennych rywun dan sylw, anfonwch eich straeon ysbrydoledig ar gyfer y gwobrau.

Mae categorïau 2022 isod yn adlewyrchu ystod eang o ddysgu a sgiliau

  • Sgiliau Gwaith
  • Oedolyn Ifanc
  • Newid Bywyd a Chynnydd
  • Heneiddio’n Dda
  • Dechrau Arni – Dysgu Cymraeg
  • Gorffennol Gwahanol, Rhannu Dyfodol
  • Sgiliau Hanfodol Bywyd
  • Cymru Egnïol
  • Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol
  • Gwneuthurwyr Newid Gweithle

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Mawrth 1 Mawrth 2022.

Paratowyd taflen hyrwyddo ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! i’w chylchredeg, anogwch eich aelodau i ymuno â dathliad Gwobrau Ysbrydoli! os gwelwch yn dda.

Mae gwybodaeth am y gwobrau a’r holl ddolenni i’r ffurflen enwebu a chanllawiau ar gael ar wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Fatma Al Nahdy yn sefyll ar risiau yn dal ei llyfrau

Fatma Al Nahdy – enillydd categori Gorffennol Gwahanol Rhannu Dyfodol Gwobrau Ysbrydoli! 2021

Daeth Fatma Al Nahdy i Brydain o Yemen yn 2015. Ymunodd â dosbarthiadau i ddysgu darllen ac ysgrifennu Saesneg, fe wnaeth hefyd ymuno â dosbarthiadau Cymraeg ac mae’n awr yn dechrau ar Radd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Phrifysgol Bangor. Dywedodd:

“Sylweddolais fy mod yn mwynhau her dysgu rhywbeth newydd. Nawr rydw i’n gallu darllen, ysgrifennu a deall Saesneg yn dda iawn. Rwy’n gallu darllen llythyrau ar fy mhen fy hun, mynd i’r meddyg teulu heb gyfieithydd a chefnogi fy mab gyda’i waith ysgol. Rwy’n ddiolchgar iawn i fod ble’r ydw i a hoffwn ddiolch i fy nhiwtoriaid am fy helpu i gyrraedd yma. Fe wnaethant ddweud wrthyf fy mod yn ddeallus, nid oedd neb erioed wedi dweud hynny wrthyf o’r blaen. Fe wnaethant fy nghymell i barhau ar fy nhaith i nyrsio.

“Fy nghyngor i unrhyw un arall sy’n meddwl am ddechrau cwrs fel oedolyn yw rheoli eich amser a chanolbwyntio ar eich nodau – addysg yw’r allwedd i fywyd.”

Darllen mwy o ,a href=”straeon am enillwyr gwobrau ar gael ar wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Os hoffech siarad gyda rhywun am enwebiadau Gworau Ysbrydoli! – anfonwch e-bost at: inspire@learningandwork.org.uk

Sefydliad Dysgu a Gwaith

More News Articles

  —