Llwyddo gyda dysgwyr lefel uwch

English | Cymraeg

Dim ond ar gyfer aelodau NTfW mae’r digwyddiad hwn ar gael

Dyddiad a Lleoliad:

27 February 2018 – Coleg Cambria, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy

Amser:

10.00am – 4.00pm

Cost:

£45.00 (a fydd yn cynnwys paneidiau a chinio)


Trefnwch Heddiw

Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar baratoi aseswyr i gyflenwi Prentisiaethau Uwch.

Mae angen i ddysgwyr sy’n dilyn Prentisiaethau Uwch berchnogi eu dysgu a datblygu eu hannibyniaeth. Ond… Beth mae hynny’n ei olygu i ni, fel aseswyr?

Mae’n golygu ffordd wahanol o asesu, gan ganolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau ymchwil ac astudio annibynnol ein dysgwyr a gallu gweld cyfleoedd ar gyfer gwaith prosiect a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r cyflogwr.

Ond mae dysgwyr lefel uwch yn aml yn rhy brysur i wneud y gwaith!

Yn ogystal, byddwn yn cynnig ffyrdd y gallwch ysgogi eich dysgwyr, a chymorth i gynllunio a strwythuro trafodaethau proffesiynol er mwyn manteisio i’r eithaf ar eich sesiynau asesu.

Ar gyfer pwy y mae’r gweithdy hwn?

Aseswyr sy’n cyflenwi Prentisiaethau Uwch

Deilliannau Dysgu:

Erbyn diwedd y dydd, bydd y rhai sy’n bresennol wedi cael cyfle i:

  • ystyried y gwahaniaeth rhwng cymhelliad mewnol a chymhelliad allanol
  • ystyried pwysigrwydd cymhelliad mewnol a sut y gallwn rymuso rhai dysgwyr i symud o gymhelliad allanol i gymhelliad mewnol er mwyn dysgu’n effeithiol
  • cydnabod pwysigrwydd dysgu sgiliau astudio academaidd, yn cynnwys sgiliau ymchwilio, i brentisiaid uwch
  • ystyried gwaith cynllunio trafodaethau proffesiynol a’r dulliau o’u cynnal er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser y dysgwr a’r asesydd

Ros Protheroe Portrait

Ros Protheroe

Cyfarwyddwr, Panda Education and Training

Bu Ros yn gweithio yn y sector Dysgu Seiliedig ar Waith ers 17 mlynedd. Dechreuodd fel tiwtor TG yn helpu oedolion yn ôl i’r gweithle ac enillodd ei TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yn 2005. Ers hynny bu mewn swyddi fel Hyfforddwr TG Arweiniol, Dilysydd Mewnol, Rheolwr Ansawdd ac Uwch Reolwr Ansawdd. Am dair blynedd hyd at fis Awst y llynedd, bu’n Rheolwr Dysgu a Datblygu Staff, yn darparu ac yn cydlynu gweithgareddau datblygu ar gyfer dros 300 o staff, gan ganolbwyntio ar addysgu a dysgu creadigol a dyfeisgar.

Ym mis Awst y llynedd, lansiodd Ros Panda Education & Training gyda’i phartner busnes a’i chyn-gydweithwraig, Rachel Arnold.

Y prif beth sy’n gyrru Ros yw sicrhau bod addysgwyr galwedigaethol yn cael y cymorth iawn i gynnig yr hyfforddiant gorau, mwyaf dyfeisgar a chreadigol sy’n bosib. Ar hyn o bryd mae’n gwneud gradd Meistr mewn Addysg, gan ymchwilio i effaith arsylwi ar ansawdd dysgu.

Rachel Arnold Portrait

Rachel Arnold

Cyfarwyddwr, Panda Education and Training

Bu Rachel Arnold yn gweithio ym maes Dysgu Seiliedig ar Waith ers 17 mlynedd. Dechreuodd fel Asesydd a Thiwtor ar raglenni prentisiaethau a chyflogadwyedd.

Yn 2002, symudodd Rachel ymlaen i reoli tîm bach o aseswyr a thiwtoriaid. Trwy ganolbwyntio ar safon y cyflenwi er mwyn sicrhau canlyniadau da i’r dysgwyr, yn 2007 daeth yn Gyfarwyddwr Datblygu Ansawdd. Bu Rachel yn gyfrifol am reoli ansawdd, y cwricwlwm a datblygu staff am 9 mlynedd. Erbyn hyn, mae Rachel yn Gyfarwyddwr gyda Panda Education & Training ac mae’n credu’n angerddol mewn datblygu sgiliau galwedigaethol.

Yn ddiweddar, penodwyd hi’n Bencampwr y sector TG a Menter a’r Cyfryngau Creadigol yng Nghymru fel rhan o’r prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.

Cysylltwch ag info@ntfw.org neu ffonio 029 20495 861 i gael gwybod rhagor.

Telerau ac Amodau

wg-logo