Lynn ar y rhestr fer am wobr ar ôl troi anhawster yn fantais

Postiwyd ar gan NTfW Admin

English | Cymraeg

Gwrthododd Lynn Matthews adael i ddyslecsia ei dal yn ôl.

Gwrthododd Lynn Matthews adael i ddyslecsia ei dal yn ôl.

Mae Lynn Matthews yn gwybod mwy na’r rhan fwyaf o bobl am y gefnogaeth y mae ar lawer o ddysgwyr ei hangen.

Oherwydd dyslecsia, roedd Lynn yn cael anawsterau yn yr ysgol, ond gwrthododd ildio ac mae wedi sicrhau gyrfa lwyddiannus yn cynnig y math o arweiniad yr oedd hi’n dyheu amdano bryd hynny.

O Fangor y daw Lynn, sy’n 57 oed, yn wreiddiol ond mae’n byw yng Ngorseinon erbyn hyn a bu’n gweithio i PeoplePlus Cymru ers 2013, fel tiwtor-hyfforddwr i ddechrau ac, ers mis Medi 2018, fel y tiwtor arweiniol. Yn y ddwy swydd, bu’n gweithio gyda rhwng 30 a 40 o ddysgwyr 16-19 oed ag anghenion dysgu amrywiol iawn.

Yn awr, mae Lynn wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Cafodd Lynn gyfle i loywi ei sgiliau ardderchog wrth ymwneud â phobl gartref a thramor dros y blynyddoedd gyda nifer o swyddi yn y sectorau milwrol, cyhoeddus, preifat ac elusennol cyn ymuno â PeoplePlus.

Mae’n credu’n gryf mewn dysgu gydol oes ac, yn 2012, cwblhaodd ei chymhwysterau mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) ac fel Ymarferwr Sgiliau Sylfaenol. Ar ôl hynny, cwblhaodd Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyngor ac Arweiniad.

Mae’n gyfarwydd iawnn â thechnegau dysgu modern ac yn chwilio am ffyrdd newydd o gyflenwi hyfforddiant sy’n ateb anghenion amrywiol y dysgwyr yn eu dosbarth.

“Mae Lynn wedi datblygu ystafelloedd dosbarth digidol lle gall dysgwyr ganfod y gwaith i’w wneud o bell, cyflwyno gwaith a derbyn ymateb iddo ar gyflymder addas iddyn nhw,” meddai Jihane Rodriguez, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata PeoplePlus Cymru.

Mae Lynn wedi gwahodd tiwtoriaid i weld a defnyddio’r adnoddau a ddatblygwyd ganddi. Yn ogystal, mae’n arwain y gwaith o greu platfformau cydweithio ar-lein lle gallant weld, trafod a rhannu adnoddau a phrofiadau dysgu.

“Dydi dyslecsia na diffyg gradd ddim wedi fy nal yn ôl rhag cyrraedd fy nod mewn bywyd. Yn wir, roedd o gymorth achos doedd dim llwybr uniongyrchol wedi’i osod o’m blaen – yn lle hynny, fe ddysgais i bennu nod ac yna ddilyn llwybr y profiadau dysgu,” meddai.

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lynn a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —