Cefnogi pobl eraill â’u hiechyd meddwl

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Sam Azzopardi standing outside by trees.

Sam Azzopardi, Rheolwr Sgiliau Educ8 Training

Mae Sam yn sylweddoli pa mor bwysig yw cael rhywun i wrando ac i’ch cefnogi pan nad ydych yn gwybod i ble arall i fynd.

Penodwyd Sam Azzopardi, Rheolwr Sgiliau gydag Educ8 Training, yn Hyrwyddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac mae hi ar gael i gefnogi staff pan fydd arnyn nhw angen clust i wrando.

Penderfynodd Sam fod yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl gan fod rhai o’i ffrindiau a’i theulu wedi cael cyfnodau pan mae eu hiechyd meddwl wedi dioddef, rhai am gyfnod byr ac eraill wedi cael trafferthion hirdymor. Sylweddolodd hi bryd hynny pa mor bwysig oedd iddyn nhw gael rhywun i wrando ar sut roedden nhw’n teimlo.

Meddai Sam “Mae cael rhywun i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n teimlo’n isel neu’n bryderus neu’r ddau yn helpu pobl i sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain. Mae help ar gael ac, yn aml iawn, gyda chymorth, bydd pethau’n gwella.”

Mae Sam wedi gwneud cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac mae bellach yn mynychu cyrsiau perthnasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

“Weithiau mae modd datrys problemau trwy siarad am bryderon gyda rhywun nad yw’r mater yn effeithio arnyn nhw’n bersonol ac a all eich helpu i gael cymorth priodol os oes angen” meddai Sam.

Ym marn Sam, gall ymyriadau bach wneud gwahaniaeth enfawr i les meddyliol pobl a rhoi’r dewrder iddynt barhau i siarad am eu teimladau.

Aeth Sam ymlaen “Rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni ddechrau trin iechyd meddwl yn yr un ffordd ag yr ydyn ni’n trin iechyd corfforol.

“Os ydyn ni’n teimlo’n sâl, rydyn ni’n barod iawn i geisio cymorth, ond rywsut mae pobl yn teimlo bod eu hiechyd meddwl yn wahanol. Dydi hynny ddim yn wir.

“Does dim angen i bobl deimlo’n unig. Mae llawer o sefydliadau ar gael i wrando arnoch a’ch cefnogi os yw’n well gennych beidio â siarad â ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr.”

Educ8 Training

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —