Myfyriwr cyrsiau Awyr Agored ar fin cychwyn ar antur ar fwrdd llong elusen Her Cymru!

Postiwyd ar gan karen.smith

Arron Tregenza

Arron Tregenza

English | Cymraeg

Mae Arron Tregenza, myfyriwr o gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau wrthi’n paratoi ar gyfer ei antur awyr agored fawr nesaf, ac mi fydd hon yn dipyn o her.

Mae Arron o Ddyffryn Ardudwy ar hyn o bryd yn dilyn cwrs BTEC ym maes Antur Awyr Agored ar gampws Dolgellau, ac yn hen law ar wynebu heriau yn yr awyr agored. Roedd wrth ei fodd felly i glywed ei fod wedi bod yn llwyddiannus gyda’i gais i gymryd rhan ym mhrosiect Her Cymru.

Dyma her fydd yn profi ei gariad antur yn ogystal â’i wybodaeth dechnegol i’r eithaf, mi fydd yn hwylio ar daith heriol 10 diwrnod o hyd fel rhan o Regatta Three Festivals Tall Ships. Dydy Arron ddim yn forwr a does ganddo fawr o brofiad yn y maes, felly mi fydd hon yn her fwy na’r cyffredin iddo.

Bydd yn cychwyn ar y daith yn Lerpwl ar 27 Mai 2018, yn hwylio gyda gweddill y criw i Ddulyn cyn gorffen yng Nghaerdydd deg diwrnod yn ddiweddarach.

Llwyddodd Arron i ddod o hyd i gyllid i gyflawni’r daith gan gynllun bwrsariaeth Sail Training International ynghyd ag elusen Her Cymru.
Mae Her Cymru yn elusen hyfforddi hwylio wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd. Mae’n gyfrifol am nifer o longau hwylio yn cynnwys Cwch Hwylio Challenge Wales – cwch hwylio 72 troedfedd o hyd sy’n barod i hwylio o amgylch y byd. Mae hefyd yn gyfrifol am Adventure Wales, sgwner 60 troedfedd gyda dau fast.

Mae’r elusen yn cynorthwyo pawb sy’n mentro ar ei bwrdd i ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol; mae’n rhoi teimlad o bwrpas ac yn codi hyder unigolion ynghyd ag ehangu eu gorwelion. Dysgir hefyd waith tîm a sgiliau arwain yn ystod eu cyfnod ar fwrdd y llong.

Dywedodd Arron:
Dw i’n teimlo ei bod hi’n anrhydedd mawr i gael fy enwebu i gymryd rhan yn Regatta’r Tall Ships. Dw i’n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau hwylio yn ystod y fordaith a chwrdd â phobl newydd o bob cefndir.

Meddai Delyth Jones, Cydlynydd Antur Awyr Agored ar gampws Dolgellau:
Da iawn Arron am ddefnyddio ei grebwyll i ddod o hyd i gyllid fel y gallai dderbyn y cynnig anhygoel hwn o hwylio ar Regatta Three Festivals Tall Ships. Mae pawb yma’n falch iawn ei fod wedi ennill lle ar fwrdd y llong a dw i’n siŵr bydd hon yn antur unwaith mewn bywyd.

Dylai’r sgiliau mae wedi’u meithrin ar y cwrs Antur Awyr Agored yn Nolgellau fod o ddefnydd mawr iddo ar y fordaith. Ein bwriad yma yn y coleg ydy meithrin hyder ein myfyrwyr, eu dysgu i wneud penderfyniadau doeth, meithrin eu gallu technegol yn ogystal â’r ochr fentrus, a chael hwyl wrth ddysgu wrth gwrs!

Rhaid diolch i gynllun Bwrsariaeth Sail Training International ynghyd ag elusen Her Cymru am gynnig y cyfle gwych hwn i Arron.

Grŵp Llandrillo Menai news

I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i’r adran Prentisiaethau ar wefan Busnes Cymru neu i gofrestru eich diddordeb mewn prentisiaethau, gallwch gwblhau ein ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.

More News Articles

  —