Pecyn Cymorth Newydd i Ysgogi Twf Digidol i Fusnesau Gogledd Cymru
Nid yw sgiliau digidol yn ddewisol bellach – mae nhw’n hanfodol ar gyfer twf.
Yn y byd cyflym a thechnolegol sydd ohoni, mae sgiliau digidol yn allweddol ar gyfer llwyddiant sefydliadol. Boed chi’n fusnes bach yng nghefn gwlad Gwynedd neu’n gyflogwr mawr yn Nyffryn Dyfrdwy neu Wrecsam, mae’r gallu i addasu a ffynnu yn yr economi ddigidol yn hanfodol.
Dyna pam mae Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSRGC) wedi datblygu’r Pecyn Cymorth Sgiliau Digidol – adnodd ymarferol, wedi’i deilwra i’r rhanbarth, i helpu cyflogwyr i lywio’r dirwedd ddigidol sy’n newid yn barhaus. Mae’n cynnig mewnwelediad, llwybrau hyfforddiant, ac offer i’ch helpu i adeiladu gweithlu medrus yn ddigidol sy’n barod ar gyfer y dyfodol.
Pam Mae Sgiliau Digidol yn Bwysig
Nid yw sgiliau digidol yn ddewisol bellach— maent yn allweddol i ysgogi:
- Cynhyrchiant: Symleiddio gweithrediadau drwy awtomeiddio ac offer digidol
- Arloesedd: Galluogi cynhyrchion, gwasanaethau a dulliau gwaith newydd
- Gwydnwch: Addasu i newid a chadw mantais gystadleuol mewn economi ddigidol
Ar draws Gogledd Cymru, rydym yn gweld trawsnewid digidol ym mhob sector – o gynhyrchu uwch a adeiladu i iechyd a gofal cymdeithasol, diwydiannau creadigol, a bwyd ac amaeth.
Beth sydd yn y Pecyn Cymorth?
Bydd y pecyn cymorth yn helpu cyflogwyr yng Ngogledd Cymru i:
- Ddeall lefelau sgiliau digidol
- Dod o hyd i gyfleoedd i ddatblygu sgiliau
- Defnyddio llwybrau prentisiaethau digidol sydd ar gael
- Adeiladu gweithlu medrus yn ddigidol
Cydweithio Rhanbarthol
Hoffem ddiolch yn fawr i’r cyflogwyr ledled Gogledd Cymru—sy’n cynrychioli ystod eang o sectorau a lefelau sgiliau digidol—am eu mewnbwn gwerthfawr wrth lunio’r pecyn cymorth yma.
Mae eu cyfraniadau, ynghyd â’r cydweithio parhaus o fewn y Grŵp Clwstwr Cyflogwyr Sgiliau Digidol a’r ‘Dwsin Digidol’, wedi bod yn allweddol wrth nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu rhanbarthol.
Wrth fyfyrio ar ymdrech ar y cyd yma, dywedodd Cadeirydd y Grŵp Clwstwr:
“Mae’r PSRGC wedi ymrwymo i gefnogi cyflogwyr ar draws Gogledd Cymru i adeiladu gweithlu sy’n hyderus yn ddigidol. Mae’r pecyn cymorth yma yn rhan o’r ymrwymiad hwnnw—wedi’i ddylunio gyda mewnbwn gan gyflogwyr, wedi’i alinio â blaenoriaethau rhanbarthol, ac yn canolbwyntio ar effaith ymarferol.” Pryderi ap Rhisiart | Rheolwr Gyfarwyddwr | M-SParc.
Gallwch gael mynediad at yr Pecyn Cymorth Sgiliau Digidol ar y Portal Sgiliau Gogledd Cymru!
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
More News Articles
« Cefnogi Dysgwyr a Chyfleoedd i Rannu’ch Barn — Sut mae Prentisiaeth Rheoli Prosiect Educ8 Training wedi helpu Sian i ddyrchafu ei busnes i’r lefel nesaf »


