Pobl Ifanc o Gymru wedi’u henwi ymysg y gorau yn y byd mewn cystadleuaeth sgiliau ryngwladol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae pobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru wedi’u cydnabod fel arbenigwyr o safon byd yng nghystadleuaeth Worldskills International yn Rwsia.

Dyma gystadleuaeth sgiliau mwya’r byd ac fe’i cynhaliwyd dros bedwar diwrnod yn Kazan gyda phobl ifanc o dros 63 o wledydd yn cystadlu i ennill medalau yn eu sgiliau dewisol.

Eleni, roedd y tîm o 37 o’r DU yn cynnwys saith cystadleuydd o Gymru, y nifer uchaf hyd yn hyn.

Enillodd Tîm y DU ddwy fedal aur, un arian ac un efydd gyda 15 Medaliwn Rhagoriaeth, sef cyfanswm o 19 gwobr.
Enillwyd chwech o fedalau Tîm y DU gan gystadleuwyr o Gymru:

  • Phoebe McLavy – trin gwallt – efydd
  • Chris Caine – gwaith saer – Medaliwn Rhagoriaeth
  • Sam Everton – coginio – Medaliwn Rhagoriaeth
  • Thomas Lewis – gosod trydanol – Medaliwn Rhagoriaeth
  • Collette Gorvett – gwasanaethau bwyty – Medaliwn Rhagoriaeth
  • Thomas Thomas – plymio a gwresogi – Medaliwn Rhagoriaeth

Meddai Phoebe McLavy, enillydd medal efydd: “Mae cael fy enwi yn un o’r tri unigolyn trin gwallt ifanc gorau yn y byd yn deimlad anhygoel ac roedd o’n sioc fawr.

“Pan gyhoeddwyd fy enw dechreuais grynu, do’n i ddim yn gallu coelio’r peth. Roedd cerdded i’r llwyfan a chlywed cymeradwyaeth y dorf a fy nghyd-aelodau yn y tîm yn brofiad anhygoel a swrrealaidd.

“Ar ôl dod oddi ar y llwyfan a gweld fy ffrindiau a’m teulu, dechreuais sylweddoli beth ro’n i wedi’i gyflawni ac ro’n i’n emosiynol iawn.

“Yn ystod y gystadleuaeth ro’n i’n teimlo’n hyderus yn fy ngwaith, er nad o’n i’n siŵr a fydden i’n cael medal gan ei fod yn cynnwys llawer o steil nad o’n i wedi’i ymarfer o’r blaen yn cynnwys trefniadau cymhleth gydag estyniadau.

“Ro’n i’n gwybod pa mor dalentog oedd y cystadleuwyr o Tsieina a Rwsia gan fy mod wedi cystadlu yn eu herbyn o’r blaen yn ystod fy hyfforddiant. Fe wnes i’n siŵr mod i’n canolbwyntio ar fy ngwaith fy hun a pheidio â gadael i unrhyw beth nac unrhyw un dynnu fy sylw.

“Ers dychwelyd o Kazan, dwi wedi dechrau sylweddoli mod i wedi ennill ond mae’n dal i fod fel breuddwyd. Dwi wedi cael galwadau gan fy ffrindiau a’m teulu yn fy llongyfarch ar ennill y fedal efydd a dwi mor falch o’r hyn dwi wedi’i gyflawni.

Meddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Mae cael saith cystadleuydd o Gymru yn Nhîm y DU yn dangos bod gennym bobl ifanc dalentog iawn yma yng Nghymru ac yn dangos cryfder cynyddol ein sylfaen sgiliau ledled y wlad.

“Mae’r bobl ifanc hyn wedi cynrychioli Cymru a’u cyflogwyr ar lwyfan byd-eang ac yn dangos ymrwymiad Cymru, fel gwlad, i fuddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol.

“Mae dychwelyd adref gyda chwe medal, yn cynnwys medal efydd, yn glod i sgiliau, talent ac ymroddiad yr unigolion hyn ac rydym yn falch iawn o’n cystadleuwyr o Gymru

Wefan WorldSkillsUK

More News Articles

  —