Prentisiaeth yn helpu i wireddu breuddwyd Katie am fusnes trin gwallt

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Katie Parry, KT’s Salon, Bangor, Apprentice of the Year finalist, with tutor/assessor Karen Jones

Ar ôl gadael yr ysgol, dewisodd Katie Parry geisio gwireddu ei breuddwyd o redeg busnes trin gwallt llwyddiannus.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae wedi datblygu’r sgiliau i redeg ei busnes ei hun, KT’s Salon Ladies & Gents, ym Mangor ac mae mor brysur fel ei bod yn gobeithio symud i le mwy yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Ar hyn o bryd mae’n cyflogi steilydd a hyfforddai ac mae’n bwriadu cyflogi dau steilydd arall, dau hyfforddai a gweithiwr harddu yn y salon newydd yn ogystal â barbwr yn y salon bresennol.

Yn ôl Katie, 23 oed, sy’n byw ym Mangor, mae wedi llwyddo cystal diolch i’w Phrentisiaethau Sylfaen mewn Trin Gwallt a Gwaith Barbwr a’r Brentisiaeth mewn Gwaith Barbwr a wnaeth trwy Busnes@LlandrilloMenai.

Erbyn hyn, mae am wneud Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Trin Gwallt er mwyn datblygu mwy ar ei sgiliau busnes ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Bu cadw’n brysur a chanolbwyntio ar ei busnes o gymorth i Katie reoli a goresgyn pyliau o banig, gorbryder ac iselder.

“Mae Rhaglen y Brentisiaeth wedi rhoi llawer iawn o gyfleoedd i mi i helpu i feithrin fy sgiliau a fy hyder er mwyn llwyddo i agor fy musnes fy hunan,” meddai. “Dwi wedi bod yn ddigon lwcus i gael hyfforddiant mewn gosod estyniadau gwallt, trin gwallt ar gyfer priodasau, a thorri a lliwio gwallt gan bobl amlwg yn y maes.

“Mae’r diwydiant gwallt yn gyffrous ac yn symud yn gyflym ac mae wedi rhoi cyfle i mi weithio i mi fy hun a chyflogi pobl ifanc eraill.

“Trwy weithio’n galed a bod yn benderfynol, dwi wedi dangos y gall dilyn llwybr y brentisiaeth i’r diwydiant trin gwallt arwain at yrfa lwyddiannus sy’n rhoi boddhad i chi. Dwi wedi dangos bod unrhyw beth yn bosibl os dilynwch ein breuddwydion.”

Dywedodd Karen Jones, Arweinydd y Tîm Gwallt a Harddwch yn Busnes@LlandrilloMenai: “Mae Katie wedi rhoi ei chalon a’i henaid i’r diwydiant trin gwallt. Mae’n ferch ifanc uchelgeisiol, 23 oed, sy’n gwybod yn union i ble mae eisiau mynd ac sy’n deall bod angen iddi weithio’n galed i gyflawni hynny.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Katie a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —