Hoffech chi ennill cyflog wrth ddysgu?

English | Cymraeg

Cyfle i gael gwybod mwy am Brentisiaethau a Hyfforddeiaethau

Beth yw Prentisiaeth?

Swyddi yw prentisiaethau yng Nghymru sy’n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy’n benodol i swydd. Rydych yn cael cyflog tra’n gweithio a dysgu.

Mae prentisiaethau yn agored i unrhyw un dros 16 oed, gan gynnwys pobl ag anableddau, cyflwr iechyd neu anawsterau dysgu. Nid oes uchafswm oedran.

Mae’n rhaid i chi ymgeisio fel unrhyw swydd arall. Bydd y cyflogwr sy’n hysbysebu’r Prentisiaeth yn nodi’r cymwysterau, sgiliau a phrofiad maent eu hangen.


Os hoffech wybod rhagor, ffoniwch Gyrfa Cymru am gymorth a chyngor ar 0800 028 4844 neu ewch i gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau


Beth yw Hyfforddeiaeth?

Mae Hyfforddeiaeth yn addas ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed yng Nghymru. Rhaglen ddysgu yw Hyfforddeiaeth sy’n darparu’r sgiliau fydd eu hangen arnoch i gael swydd neu i fynd ymlaen i ddysgu pellach neu brentisiaeth yn y dyfodol.

Mae Hyfforddeiaeth yn gyfle i gael profiad o swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi cyn i chi ymrwymo i gwrs neu brentisiaeth.

Cewch eich talu am wneud Hyfforddeiaeth a bydd eich cyflogwr yn eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth.

Os hoffech wybod rhagor, ffoniwch Gyrfa Cymru am gymorth a chyngor ar 0800 028 4844 neu ewch i gyrfacymru.llyw.cymru/cyrsiau-a-hyfforddiant/hyfforddeiaethau