Recriwtiwch Brentis
Gall recriwtio prentis eich helpu i ehangu eich gweithlu a’i sylfaen sgiliau. Mae cymorth ar gael tuag at gost yr hyfforddiant a’r asesiadau.
Caiff y rhan fwyaf o’r hyfforddiant ei wneud gan y cyflogwr sy’n gweithio gyda darparwr hyfforddiant cymeradwy. Y cyflogwr sy’n gyfrifol am dalu cyflog y prentis ac am unrhyw hyfforddiant ychwanegol. Caiff costau’r hyfforddiant eu cefnogi gan y rhaglen brentisiaethau.
Mae’n bwysig gweithio gyda darparwr hyfforddiant mor gynnar â phosibl yn y broses. Byddant yn gallu rhoi help, cymorth ac arweiniad.
Lefelau a fframweithiau prentisiaeth
Ceir 4 lefel wahanol o brentisiaethau:
- Prentisiaeth Sylfaen – Lefel 2: NVQ Lefel 2 a chyfwerth â 5 TGAU da
- Prentisiaeth – Lefel 3: NVQ Lefel 3, cyfwerth â phasio 2 Safon Uwch
- Prentisiaeth Uwch – Lefel 4/5: Lefel HNC/ HND/ Gradd Sylfaen
- Gradd-brentisiaeth – Level 6: Gradd baglor lawn
Yng Nghymru, bydd prentis yn dilyn Fframwaith Prentisiaeth Gymreig cymeradwy.
Darganfyddwch sut y gall eich busnes elwa o gymryd prentis neu uwchsgilio eich gweithlu presennol.
Prentisiaethau