Prentisiaethau gradd yn y meysydd Digidol a Gweithgynhyrchu yn y gogledd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru

Prentisiaethau gradd di-dâl yn y maes digidol a gweithgynhyrchu oedd pwnc gweminar lle daeth colegau a phrifysgolion gogledd Cymru ynghyd.

Bu Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru yn cydlynu ymdrechion prifysgolion Bangor a Glyndŵr Wrecsam, Coleg Cambria, Grŵp
Llandrillo Menai a’r Brifysgol Agored (OU) i ddod ynghyd i hyrwyddo prentisiaethau a gaiff eu hariannu’n llawn yn y rhanbarth. Cynhaliwyd y digwyddiad ar 17 Tachwedd gyda chyflwyniadau byr a sesiwn holi ac ateb. Cafwyd cyfraniadau allweddol gan brentis presennol a thri chyflogwr sy’n rhan o’r cynllun prentisiaethau gradd.

Mae llefydd ar gael i gychwyn ar Brentisiaeth Radd ym mis Ionawr 2021 a phob mis Medi ac ymhlith y partneriaid presennol mae Hanson, Tata Steel, Fifth Wheel, Dŵr Cymru, Cartrefi Cymru, Airbus a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae Prentisiaethau Gradd yn dod â sgiliau lefel uwch ac addysg i’r gweithle ac yn rhoi profiad ymarferol hanfodol i ddysgwyr wrth iddynt wneud gradd is-raddedig dros gyfnod o dair blynedd.

Roedd y cyflogwyr a gymerodd ran yn y weminar yn frwd iawn dros y cynllun prentisiaethau gradd ac roedd eu buddsoddiad eisoes yn dwyn ffrwyth gan ddenu sgiliau newydd i’w busnes. Roedd eu negeseuon nhw yn hanfodol er mwyn hyrwyddo’r cynllun wrth ddiwydiannau eraill ac annog busnesau eraill i gymryd rhan.

Mae Prentisiaethau Gradd yn meithrin y sgiliau pwysig lefel uwch y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt i gynyddu sgiliau eu staff presennol neu i gyflogi gweithwyr newydd, gan eu helpu i ddatblygu’r sgiliau diweddaraf ac i fod yn gystadleuol gyda’r dechnoleg newydd. Cafodd cyflogwyr eu hannog i fynd i’r digwyddiad ar-lein er mwyn cynyddu sgiliau eu gweithwyr presennol mewn cyfnod allweddol i bob diwydiant yn wyneb pandemig y coronafeirws.

Dywedodd y cyflwynydd, David Roberts, cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru: “Mae’r weminar yn llwyfan i roi gwybod i fusnesau ac i unrhyw un sy’n dymuno ailhyfforddi neu symud ymlaen yn eu swydd bresennol am y cyfleoedd sydd i’w cael. Dyma rywbeth y dylem wneud mwy i dynnu sylw ato. prentisiaethau a gaiff eu hariannu’n llawn ar stepen drws cynifer o gyflogwyr yma yng Nghymru.

“Rydym yn arbennig o awyddus i roi hwb i’r niferoedd yn y Flwyddyn Newydd – mae cyfle i gychwyn fis Ionawr – felly gobeithio y cawn ymateb da ar y diwrnod.”

Os hoffech wybod mwy am Brentisiaethau Gradd yn y gogledd, cysylltwch yn uniongyrchol â’r prifysgolion, Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr neu’r Brifysgol Agored i gael sgwrs gychwynnol.

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

More News Articles

  —