Prentisiaethau’n ganolog i lwyddiant brocer yswiriant

Postiwyd ar gan karen.smith

16.05.17 mh Arthur J Gallagher VQ Awards 14

English | Cymraeg

Bu rhaglen brentisiaethau cwmni broceriaid yswiriant a rheoli risg Arthur J. Gallagher o dde Cymru yn sylfaen dda i’r twf mawr a welodd y cwmni dros y pum mlynedd diwethaf.

Cwblhaodd 75 o’r gweithwyr brentisiaethau yn ystod y cyfnod hwn ac mae 37 arall wrthi’n gweithio tuag at gymwysterau sy’n amrywio o brentisiaethau sylfaen i brentisiaethau uwch a Diploma mewn Yswiriant. Mae’r cwmni’n falch o’i gyfradd llwyddiant o 91% ac mae dros ddwy ran o dair o’i weithlu naill ai wedi ennill cymhwyster neu’n gweithio tuag at un.

Tyfodd yr incwm o £3.56 miliwn yn 2012 i £10.4m ac mae nifer y staff wedi mwy na dyblu, gan godi o 68 i 155 yn yr un cyfnod yn Llantrisant, Caerdydd, Casnewydd a Thonysguboriau, a disgwylir creu 10 swydd newydd arall eleni. Gwobrwywyd y cwmni am ei ymrwymiad i brentisiaid trwy ei enwi’n Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru ym mis Hydref y llynedd.

Cychwynnodd Arthur J. Gallagher ei raglen brentisiaethau ar ôl gweld bod bwlch sgiliau yn y farchnad. Sylweddolwyd, er bod gan lawer o bobl oedd yn ymgeisio am swyddi sgiliau ardderchog ym maes gwasanaethu cwsmeriaid, nad oedd gan bawb ohonynt y sgiliau yswiriant angenrheidiol i gyflawni strategaeth newydd y cwmni ar gyfer cysylltu â chwsmeriaid.

Mae’r cwmni’n cydweithio â’r darparwr dysgu Acorn Learning Solutions Ltd o Gasnewydd i lenwi’r bwlch o ran sgiliau. Mae staff newydd a staff presennol yn cael dilyn prentisiaethau sy’n cynnig nifer o wahanol gyfleoedd sy’n gydnaws â model busnes y cwmni.

“Mae prentisiaethau’n helpu i ddatblygu gweithlu mwy medrus,” meddai Paul Norman, rheolwr rhanbarthol Arthur J. Gallagher yng Nghymru. “Mae’r staff yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi’n well os ydyn nhw’n cael amser i hyfforddi a datblygu eu sgiliau. Rydyn ni’n dangos llwybr amlwg iddynt, sy’n gysylltiedig â chymwysterau, ac yn eu hannog i anelu at unrhyw swydd yn y cwmni yr hoffent ei chyrraedd rhyw ddydd.

“Mae gennym wybodaeth am y farchnad sy’n profi bod gwerthwyr â chymwysterau’n cadw cwsmeriaid yn well a bod cwsmeriaid yn fwy bodlon â nhw nag â rhai heb gymwysterau. Mae’r cyfartaledd tua +5% ac mae hynny’n dylanwadu ar ein trosiant a’n helw net. Pe baem yn cyflogi rheolwr cyfrifon profiadol ym maes yswiriant, byddai cost y cyflog rhwng £5k a £10k yn uwch ond, yn bwysicach, nid yw profiad bob amser yn golygu eu bod yn bodloni’n disgwyliadau ni o ran cynnig gwasanaeth da i gwsmeriaid.

“Byddwn i’n argymell prentisiaethau oherwydd maent yn galluogi’r busnes i recriwtio pobl sy’n credu’n gryf mewn cynnig gwasanaeth da i gwsmeriaid. Gallwch ddysgu’r sgiliau technegol iddynt a’u mowldio i fod yn sêr y dyfodol. Yn ogystal, mae prentisiaethau’n cynyddu teyrngarwch. Daw hyn o ganlyniad i’r broses o addysgu a hyfforddi rhywun i fod yn weithiwr proffesiynol.

“Buasai’n fwy anodd i ni dyfu fel y gwnaethom fel busnes heb y rhaglen brentisiaethau. Pe bai’n rhaid i ni gyflogi gweithwyr yswiriant profiadol, yn ogystal â bod yn fwy costus, byddai wedi bod yn anos dod o hyd i’r bobl hyn yn lleol. Efallai y buasai ein twf organig a’n strategaeth fusnes wedi cymryd mwy o amser heb gefnogaeth y rhaglen brentisiaethau.”

Mae llwyddiant rhaglen brentisiaethau’r cwmni yng Nghymru wedi darbwyllo Arthur J. Gallagher i ystyried defnyddio dysgu seiliedig ar waith ym mhob un o’i 80 o swyddfeydd ledled Prydain, sy’n cyflogi 4,900 o staff.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addunedu i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel yn ystod ei thymor presennol ac maent ar gael i bobl o bob oed. Mae’r prentisiaethau’n canolbwyntio’n arbennig ar anghenion diwydiant, yn enwedig wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, sef sectorau lle mae prinder sgiliau.

Bwriedir buddsoddi mwy hefyd i hybu twf mewn sectorau allweddol yn cynnwys y diwydiannau creadigol, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, adeiladu, logisteg a gwasanaethau ariannol ac amgylcheddol. Cefnogir prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a rhai dwyieithog, sy’n rhoi cyfle i bobl ddysgu er mwyn cynnal a datblygu eu sgiliau.

Mae prentisiaid yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan sicrhau profiad ymarferol, gwerthfawr, yn y gweithle. Mae prentisiaethau’n cyfrannu tuag £1.1 biliwn at economi Cymru ac yn troi pob £1 o fuddsoddiad cyhoeddus yn £74 o’i gymharu â £57 yn achos gradd arferol.

Mae cyfraddau cwblhau prentisiaethau yng Nghymru dros 80 y cant yn gyson o’i gymharu â 67 y cant yn Lloegr. Ar gyfartaledd, mae fframwaith prentisiaeth yn costio rhwng £4,000 ac £16,000 o’i gymharu ag o leiaf £27,000 ar gyfer gradd arferol.

O 8 Ebrill eleni ymlaen, mae cyflogwyr yn y Deyrnas Unedig sy’n talu dros £3 miliwn mewn cyflogau yn talu Ardoll Brentisiaethau sy’n mynd at hyfforddi prentisiaid.

I gael gwybod sut y gallai eich busnes elwa, cofrestrwch eich diddordeb yma

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Capsiwn llun:
Mike Jones, rheolwr gyfarwyddwr rhanbarthol Arthur J. Gallagher yng Nghymru, gyda’r wobr.

More News Articles

  —