Prentisiaethau’n helpu Bwrdd Iechyd i sicrhau dyfodol iach

Postiwyd ar gan NTfW Admin

English | Cymraeg

Rheolwr Academi Brentisiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Ruth Gates (ail o’r chwith) gyda nifer o brentisiaid, Emily Hains, Luke Radford, Jacob Davies a Natasha Davies yn Ysbyty Treforys.

Rheolwr Academi Brentisiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Ruth Gates (ail o’r chwith) gyda nifer o brentisiaid, Emily Hains, Luke Radford, Jacob Davies a Natasha Davies yn Ysbyty Treforys.

Does dim lle i gamgymeriadau wrth ddarparu gofal iechyd i 390,000 o bobl ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe o’r farn bod ei raglen brentisiaethau’n datblygu gweithle newydd, dyfeisgar a deallus ar gyfer y dyfodol.

Ers i’r Bwrdd greu Academi Brentisiaid gyda chefnogaeth Academi Sgiliau Cymru tua diwedd 2016, mae 193 o brentisiaid o 12 o fframweithiau dysgu ledled y diwydiant wedi’u penodi ac mae 15 o ymgeiswyr llwyddiannus eraill yn disgwyl cael eu gwirio cyn eu cyflogi.

Yn ogystal â llwyddo i ddenu ymgeiswyr dawnus trwy lwybrau gwahanol i’r arfer, mae’r Academi wedi galluogi staff presennol i gynyddu eu sgiliau a dringo’r ysgol yn eu gyrfa.

Mae pob prentis yn sicr o gael cyfweliad am swydd os yw’n ateb gofynion manyleb y person ac mae staff yr Academi yn eu helpu â thechnegau ceisiadau a chyfweliadau.

Yn awr, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

“Un rheswm dros lwyddiant yr Academi yw’r bartneriaeth â Choleg Castell-nedd Port Talbot (NPTC) a’u partneriaid nhw yn Academi Sgiliau Cymru,” meddai Ruth Gates, Rheolwr yr Academi Brentisiaid.

“Mae darparu prentisiaethau trwy’r Academi yn help wrth recriwtio staff a gwella’u sgiliau. Mae hefyd yn cefnogi cymunedau ac mae hynny’n rhoi mwy o hygrededd i bartneriaeth y Bwrdd Iechyd a’r darparwr hyfforddiant.”

Caiff dangosyddion perfformiad allweddol, ynghyd â niferoedd y prentisiaid, yr hyn maent yn ei gyflawni a’u hynt wedyn, eu monitro mewn cyfarfodydd chwarterol ac fe gynhelir cyfarfodydd misol gyda darparwyr hyfforddiant hefyd i edrych ar y cynnydd a wneir.

Yn ogystal, mae’r Academi’n cydweithio’n rheolaidd ag ysgolion, colegau a chanolfannau gwaith lleol i sôn wrth grwpiau penodol am gyfleoedd. Mae’r rhain yn cynnwys rhieni sengl, myfyrwyr nad ydynt yn symud ymlaen i addysg uwch ac eraill.

“Dyma’r unig Academi o’i math yng Nghymru. Bu’n llwyddiant eithriadol yn darparu hyb arloesol sy’n ymateb yn effeithiol i brinder sgiliau a bylchau penodol yn y sefydliad,” meddai Nicola Thornton Scott, Pennaeth Cynorthwyol Sgiliau yng Ngrŵp Colegau NPTC.

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr dysgu a hyfforddeion.”

More News Articles

  —