Prentisiaethau’n hwb mawr i’r Swyddfa Eiddo Deallusol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Elaine Short, learning and development specialist at the Intellectual Property Office, with apprentice Sara Davies.

Elaine Short, arbenigwr dysgu a datblygu yn y Swyddfa Eiddo Deallusol, gyda Sara Davies, prentis.

Roedd y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yng Nghasnewydd yn cael anhawster canfod digon o arbenigwyr technoleg gwybodaeth i ymdopi â’r holl newidiadau yr oeddent yn eu hwynebu.

Yr ateb oedd datblygu rhaglen brentisiaethau benodol fel eu bod yn gallu recriwtio, hyfforddi a chadw pobl ifanc oedd â sgiliau TG a’r sgiliau eraill angenrheidiol. Mae’r darparwr hyfforddiant Acorn Learning Solutions yn cyflenwi fframweithiau prentisiaethau mewn Gweinyddu Busnes Lefel 2 a 3, Cyllid AAT Lefel 2 a 3, a Chymhwysedd Proffesiynol mewn TG a Thelathrebu Lefel 3.

Lansiwyd y rhaglen yn 2014 ac, ers hynny, recriwtiwyd 32 o brentisiaid ac mae’r sefydliad yn cyflogi 19 ar hyn o bryd.

Mae’r holl brentisiaid sydd wedi cwblhau’r rhaglen wedi mynd ymlaen i gael gwaith parhaol gyda’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), adrannau eraill yn y llywodraeth neu yn y sector preifat.

Yn awr, mae’r sefydliad wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Mae’r IPO yn cyflogi dros 1,150 o bobl, yng Nghasnewydd yn bennaf. Mae’n canolbwyntio ar hybu cyflogaeth ymhlith pobl leol ac mae’n cydweithio â cholegau ac ysgolion lleol wrth recriwtio. Y bwriad yw cymryd 20 o brentisiaid yr hydref hwn.

Dywedodd Elaine Short, Arbenigwr Dysgu a Datblygu gyda’r IPO: “Roedd y rhaglen brentisiaethau’n ffordd ymarferol o gefnogi ein sgiliau ni’n hunain. Nid ateb sydyn oedd hyn ond roedd yn rhan o gynllun hirdymor a fyddai’n ein galluogi i ganfod doniau ifanc yn gynnar, a’u helpu i ddatblygu gyrfa.

“Mae prentisiaid yn dod â brwdfrydedd at bob rhan o’u gwaith, yn enwedig wrth gydweithio mewn tîm. Ymhlith y manteision i’r staff presennol mae cael chwistrelliad o egni newydd sy’n gwneud y sefydliad yn fwy cynhyrchiol.”

Dywedodd Louise Wheten o Acorn Learning Solutions: “Ein gweledigaeth ar gyfer yr IPO yw parhau i ddatblygu ac ehangu’r rhaglenni prentisiaethau.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch y Swyddfa Eiddo Deallusol ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —