Prentisiaethau’n llwyddiant mawr yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg


Gan Sarah John, cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Mae dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn llwyddiant mawr i Lywodraeth Cymru. Dros y deunaw mis diwethaf, mae’r rhaglen Brentisiaethau, yn neilltuol, wedi tyfu’n aruthrol gyda bron i 6,000 yn fwy o brentisiaid yn dechrau dysgu yn ystod blwyddyn gontract 2017/18 nag yn y flwyddyn flaenorol.

Un rheswm dros y llwyddiant hwn yw effaith yr Ardoll Brentisiaethau ar gyflogwyr mawr. Gan eu bod yn talu’r Ardoll, maent yn dangos mwy o ddiddordeb yn y rhaglen Brentisiaethau ac yn cymryd mwy o ran ynddi. Rhesymau eraill sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant yw’r cydweithio a fu rhwng yr NTfW a Llywodraeth Cymru, buddsoddiad mewn marchnata allanol, digwyddiadau i gyflogwyr a gweithgareddau hyrwyddo fel y rhaglen ‘Troi eich Llaw’ mewn ysgolion, SkillsCymru a chystadlaethau sgiliau llwyddiannus eraill.

Hefyd, dros y 12 mis diwethaf, rhaid cofio bod NTfW wedi dod yn ‘siop un stop’ ar gyfer yr holl ymholiadau am Brentisiaethau, gan symud ymlaen â’r broses atgyfeirio o Borth Sgiliau Busnes Cymru.

Mae hyn yn newyddion da i Gymru. Yn fy swydd i, rwy’n gweld o ddydd i ddydd sut y mae dysgu seiliedig ar waith yn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc a phrentisiaid ledled Cymru ac weithiau’n trawsnewid eu bywydau yn llwyr.

Mae unigolion yn y gweithle yn datblygu profiad a sgiliau, gan wneud cyfraniad gwerthfawr at lwyddiant y sefydliadau a’r busnesau lle maent yn gweithio.

Mae llwyddiant y rhaglen Brentisiaethau yn cynnwys cynnydd yn:

  • ymgysylltiad cyflogwyr
  • nifer y dysgwyr newydd sy’n dechrau dysgu
  • lefel a gwahanol sectorau’r Prentisiaethau a gynigir
  • pwyslais darparwyr ar y sectorau blaenoriaeth economaidd a bennwyd gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
  • y cydweithrediad ar draws y rhwydwaith ôl-16

Yn fwy diweddar, mae sefydlu Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru, corff o dan arweiniad cyflogwyr, wedi llywio’r gwaith o adolygu Prentisiaethau cyfredol yng Nghymru a chreu Prentisiaethau yn y dyfodol.

Bydd yr holl weithgarwch hwn, gyda’r nod o wella economi Cymru, yn sicrhau bod pawb ohonom yn cyfrannu at Gymru fwy llewyrchus.

A ninnau’n rhwydwaith o ddarparwyr, rydym yn dal i chwarae rhan ganolog yn natblygiad cynlluniau sgiliau rhanbarthol. Bydd ein cyflogwyr yn disgwyl i ni eu cefnogi fel y gallant ddiwallu eu hanghenion o ran sgiliau ac mae’n rhaid i ni barhau i gynnig cyngor ac arweiniad da i’r holl ddarpar ddysgwyr wrth iddynt ddewis llwybr dysgu, gan sicrhau ein bod yn cofleidio ac yn annog cynhwysiant a’r defnydd o’r iaith Gymraeg mewn dysgu seiliedig ar waith.

Mae modd gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu o leiaf 100,000 o Brentisiaethau o safon uchel i bobl o bob oed cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, yn sicr, ond mae’n rhaid i ni barhau i gydweithio i gynnal y momentwm sydd wedi’i greu hyd yma.

Mae angen i bawb sy’n gysylltiedig â Phrentisiaethau, yn ddysgwyr, yn gyflogwyr ac yn ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, i fod yn llysgenhadon. Byddwch yn angerddol am y lles y mae’r rhaglen wedi’i wneud i’ch bywyd neu’ch busnes a soniwch wrth bobl amdano.

Rwyf wedi treulio 25 mlynedd yn y sector hwn ac rwy’n dal i harasio pobl â straeon am y dysgwyr rwy wedi’u gweld yn blodeuo ac yn symud ymlaen a’r busnesau rwy wedi’u gweld yn tyfu.

Mae dysgu seiliedig ar waith yn hwb mawr i’r gyflogaeth a’r cynhyrchiant sy’n angenrheidiol er mwyn gwella economi Cymru ac mae’r NTfW mewn sefyllfa dda i helpu unigolion a sefydliadau i ganfod yr atebion cywir.

Gall cyflogwyr sy’n awyddus i recriwtio prentisiaid neu i gynyddu sgiliau eu gweithwyr presennol gael rhagor o wybodaeth am Brentisiaethau neu raglenni eraill ym maes sgiliau a hyfforddiant trwy fynd i Borth Sgiliau Busnes Cymru https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338.

Mae’r NTfW yn cynrychioli dros gant o sefydliadau sy’n ymwneud â dysgu yn y gweithle, o ddarparwyr hyfforddiant bach arbenigol i sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd ag awdurdodau lleol, Sefydliadau Addysg Bellach ac elusennau.

More News Articles

  —