Prentisiaethau’n trawsnewid cwmni diodydd llwyddiannus o Bowys

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills, William Watkins; y Rheolwr Cyffredinol, Dave Pope; Pennaeth Uned Busnes Bwyd a Diod Hyfforddiant Cambrian, Chris Jones, a rhai o’r prentisiaid.

Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills, William Watkins; y Rheolwr Cyffredinol, Dave Pope; Pennaeth Uned Busnes Bwyd a Diod Hyfforddiant Cambrian, Chris Jones, a rhai o’r prentisiaid.

Mae dyfodiad prentisiaid i gwmni dŵr ffynnon a diodydd meddal Radnor Hills o Bowys yn 2017 wedi cael “effaith wirioneddol drawsnewidiol” ar y gweithwyr a thwf y busnes.

Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 181 o bobl yn Heartsease, ger Trefyclo, wedi gweld twf o 20 y cant yn y busnes yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn cynnwys y flwyddyn orau hyd yma yn 2018.

I gydnabod buddsoddiad llwyddiannus y cwmni mewn prentisiaethau, mae Radnor Hills wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru fis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Erbyn hyn, mae gan Radnor Hills 53 o brentisiaid mewn gwahanol rannau o’r busnes, yn gweithio at gymwysterau mewn bwyd, arwain tîm, ac arwain a rheoli. Caiff y prentisiaethau, o Brentisiaethau Sylfaen i Brentisiaethau Uwch, eu cyflenwi gan y darparwr dysgu, Hyfforddiant Cambrian. Coleg Henffordd sy’n cyflenwi cymwysterau mewn peirianneg.

Am gyfnod prawf y cyflwynwyd y prentisiaethau i ddechrau ond yn fuan iawn daethant yn elfen barhaol wrth i’r cwmni weld y lles yr oeddent yn ei wneud i’r staff ac i berfformiad y busnes. Erbyn hyn maent yn ganolog i’r busnes ac mae pob gweithiwr newydd yn cael cynnig cyfleoedd am brentisiaethau.

Mae dau aelod o’r staff yn dangos manteision personol prentisiaethau a’r manteision i’r busnes. Sicrhaodd Ben Price achrediad ISO14001 i system effeithiol y cwmni ar gyfer rheoli amgylcheddol, gan arwain at gyfleoedd gwerthiant newydd. Fel gwobr am ei lwyddiant, cafodd Ben ei ddyrchafu’n Gydlynydd Amgylcheddol.

Llwyddodd un o’r rheolwyr, Paul Whiffen a fu’n gweithio i Radnor Hills ers 10 mlynedd ac sy’n gyfrifol am gyllideb o £4 miliwn, i ddyblu cynnyrch ei adran yn y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae prentisiaethau wedi cael effaith wirioneddol drawsnewidiol ar ein gweithwyr ac ar dwf y busnes,” meddai’r Rheolwr Cyffredinol, Dave Pope. “Maen nhw’n rhoi cyfle i’r holl weithwyr gymryd rhan yn natblygiad y busnes a syniadau newydd. Mae hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan o’n cynlluniau ni.”

Dywedodd Chris Jones, Pennaeth Uned Fusnes Bwyd a Diod Hyfforddiant Cambrian: “Welais i erioed o’r blaen gwmni â’r fath ymrwymiad i ddysgu, mor fuan ar ôl dechrau cynnig prentisiaethau. Mae’n hyfryd gweld y manteision i Radnor Hills a’u gweithwyr.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Radnor Hills a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —