
Siaradwyr a Chyflwynwyr y Gweithdai 2025
John Nash
Cadeirydd, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
Cefndir mewn peirianneg a rheoli ansawdd sydd gan gadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) John Nash a ddaeth yn gynghorydd hyfforddi gyda TSW Training yn 1989.
Ar ôl arwain y broses pan brynwyd y busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr ganddo ef a dau gydweithiwr, bu’n rheolwr gyfarwyddwr am chwe blynedd o 2012 ymlaen ac mae’n dal yn gyfarwyddwr ar brosiectau masnachol a dysgu seiliedig ar waith.
Mae John yn asesydd profiadol, yn brif ddilysydd ac wedi’i hyfforddi’n asesydd cymheiriaid. Yng Nglynrhedynog mae’n byw ac mae’n cynrychioli’r sector dysgu seiliedig ar waith yng Ngrŵp Gweithgynhyrchu Uwch Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd.
Mae wedi tywys yr NTFW trwy nifer o heriau yn cynnwys toriadau i gyllideb prentisiaethau ac mae wedi arwain nifer o brosiectau pwysig.
Lisa Mytton
Cyfarwyddwr Strategol, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
Lisa yw Cyfarwyddwr Strategol presennol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW). Bu’n gweithio yn y diwydiant dysgu seiliedig ar waith ôl-16 ers dros 28 mlynedd fel Uwch-reolwr Ansawdd ac Arolygydd Cymheiriaid Estyn ochr yn ochr â gyrfa wleidyddol mewn Llywodraeth Leol am 17 mlynedd.
Bu Lisa’n Faer, yn Aelod o’r Cabinet dros Addysg ac yn fwyaf diweddar yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Yn ogystal, mae Lisa’n gyfarwyddwr y cwmnïau elusennol hyn: Sefydliad Cyfarthfa, Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful (MTIB) ac Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens a George.
Siaradwr Gwadd
Rhian Edwards
Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi, Medr
Rhian Edwards yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Medr, a dechreuodd yn ei swydd ar 1 Awst 2024.
Cyn ymuno â Medr, Rhian oedd Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau yn Llywodraeth Cymru. Roedd yr is-adran yn gyfrifol am nifer o swyddogaethau polisi, cynllunio, cyllido, sicrhau ansawdd a monitro ym meysydd addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, dysgu oedolion a’r chweched dosbarth mewn ysgolion.
Cyn ei chyfnod gyda Llywodraeth Cymru, bu Rhian yn gweithio yn y sectorau preifat a gwirfoddol, a’i swydd fwyaf diweddar oedd Cyfarwyddwr Masnachol gyda Cwmpas.Enillodd Rhian radd o Brifysgol Caerdydd yn 2003, ac aeth ymlaen i astudio ar gyfer gradd MBA gyda Phrifysgol De Cymru.
Philip Blaker
Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru
Cyn ymuno â Cymwysterau Cymru fel Prif Weithredwr yn 2015, roedd Philip yn gweithio fel ymgynghorydd yn PwC ac fel Gyfarwyddwr Gweithrediadau gydag UCAS. Yn ystod ei yrfa, bu’n canolbwyntio ar gyflawni cynlluniau mawr, cymhleth a, cyn ymuno â PwC, roedd ganddo gefndir mewn darparu asesiadau ac arholiadau cenedlaethol.
Bu Philip yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Profion gyda’r Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a’r Cwricwlwm (QCDA) ac yn rhan o uwch-dîm rheoli un o’r cyrff dyfarnu. Mae gan Philip gymwysterau ôl-raddedig mewn rheoli busnes ac mae ganddo a chymwysterau rheolwr prosiectau a rhaglenni.
Darren Howells
Prif Weithredwr, Agored Cymru
Ymunodd Darren ag Agored Cymru yn 2019 fel Dirprwy Brif Weithredwr a chafodd ei benodi’n Brif Weithredwr ym mis Mai 2021.
Darren sy’n gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol a masnachol Agored Cymru ac am hyrwyddo cenhadaeth y sefydliad i alluogi unigolion i sicrhau’r sgiliau a’r cymwysterau y mae arnynt eu hangen i wireddu eu potensial, cyfoethogi eu bywydau a chyfrannu at eu cymunedau ac economi gref.
Cyn ymuno ag Agored Cymru bu gan Darren swyddi masnachol uchel yn y Sector Dyfarnu a’r diwydiant diodydd. Mae hefyd yn Llywodraethwr mewn Coleg Addysg Bellach.
Angharad Lloyd Beynon
Uwch Reolwr Polisi, Rhanddeilaid a Phartneriaethau (y Cenhedloedd ac Iwerddon), City & Guilds
Mae Angharad Lloyd Beynon yn Uwch Reolwr Polisi, Rhanddeiliaid a Phartneriaethau gyda City & Guilds ac mae’n gofalu am Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Mae’n bleidiol i ddiben City & Guilds sef galluogi pobl a sefydliadau i ddatgloi eu potensial a datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer twf personol ac economaidd. Mae Angharad yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid allweddol ledled y cenhedloedd i gyflawni hyn.
Mae Angharad yn Liferwr i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru. Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Coleg Sir G a Choleg Ceredigion ac mae’n aelod o Fwrdd Arweinyddiaeth dros Fusnes yn y Gymuned Cymru. Angharad hefyd yw Cyd-gadeirydd Ffederasiwn Cyrff Dyfarnu Cymru a’r Alban, yn gwirfoddoli ar gyfer radio ysbyty BGM ac mae hefyd ar Fwrdd Cynghori Cyflogaeth Carchar Caerdydd a’r Parc.
Cyflwynwyr y Gweithdai
Mark Evans
HMI, Estyn
Bu Mark yn arolygydd gydag Estyn ers bron 20 mlynedd ac ef yw swyddog arweiniol dysgu seiliedig ar waith/prentisiaethau. Mae gan Mark brofiad sylweddol fel arolygydd ar draws y sector ôl-16 yn ogystal ag addysg orfodol. Cyn ymuno ag Estyn, cafodd Mark brofiad helaeth yn y sector ôl-16, yn cynnwys swyddi arwain ac uwch-reolwr. Roedd hyn yn cynnwys rheoli a sicrhau ansawdd darpariaeth dysgu seiliedig ar waith. Mae Mark yn athro cymwysedig gydag arbenigedd penodol yn y sectorau peirianneg ac adeiladu.
Jassa Scott
Cyfarwyddwr Strategol, Estyn
Jassa sy’n arwain gwaith Estyn gyda’r sectorau ôl-16 yn cynnwys addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, gyrfaoedd, dysgu oedolion yn y gymuned, dysgu yn y sector cyfiawnder, Cymraeg i oedolion a gwaith ieuenctid. Mae hefyd yn arwain y gwaith o gynghori Llywodraeth Cymru a gwaith meithrin gallu yn cynnwys gweithredu effeithiol. Mae’n goruchwylio meysydd diogelu, cyfiawnder cymdeithasol, anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant yn ogystal â chydweithio â chyrff eraill ym meysydd arolygu, archwilio a rheoleiddio.
Mark Campion
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Estyn
Mae Mark yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol gydag Estyn ac ef sy’n gyfrifol am waith ôl-16. Bu’n HMI ers 2012, yn arolygu awdurdodau lleol, ysgolion uwchradd, a nifer o ddarparwyr ôl-16. Cyn ymuno ag Estyn, bu Mark yn gweithio i awdurdod lleol am ryw ddeng mlynedd, fel cynghorydd ysgolion i ddechrau ac yna fel arweinydd strategol mewn meysydd fel llesiant dysgwyr a dysgu 14-19. Dechreuodd Mark ei yrfa fel athro ysgol uwchradd.
Robert Nitsch
Prif Swyddog Gweithredol Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu
Mae Robert wedi bod yn gefnogol i hyfforddiant seiliedig ar sgiliau ac addysg dechnegol erioed. Penodwyd ef yn Brif Weithredwr Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB) ym mis Awst 2024.
Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Cyflenwi Sgiliau yn y Sefydliad Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol (IfATE) ac yn gyfrifol am ddatblygu, cymeradwyo a sicrwydd cymwysterau technegol a phrentisiaethau yn Lloegr.
Robert yw Cadeirydd Llywodraethwyr Coleg Dinas Portsmouth, ac mae’n Gymrawd yn Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE)
Jo Creeden
Dirprwy Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifol Agored Cymru
Ymunodd Jo ag Agored Cymru ym mis Medi 2015. Jo sy’n gyfrifol am gydymffurfiaeth reoleiddiol Agored Cymru, ac am arwain y tîm rheoli yn y Gyfarwyddiaeth Datblygu Cynnyrch/Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio.
Mae Jo yn weithiwr proffesiynol medrus ym myd addysg gyda gyrfa o dros 35 mlynedd ym maes asesu, sicrhau ansawdd, archwilio a chydymffurfiaeth. Yn ystod ei gyrfa bu gan Jo nifer o swyddi, yn cynnwys Cyfarwyddwr Ansawdd, Safonau a Rheoleiddio, Rheolwr Rheoleiddio a Chymwysterau, Rheolwr Sicrhau Ansawdd, Rheolwr Achredu, Rheolwr Datblygu Staff, Cydlynydd Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Pennaeth Hyfforddiant a Chyflawni, Arweinydd Sicrhau Ansawdd Mewnol, Darlithydd ac Asesydd.
Mae Agored Cymru yn aelod balch o Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB). Mae Jo yn gyd-Gadeirydd grŵp FAB Cymru.
Nathan Evans
Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru
Ymunodd Nathan â Cymwysterau Cymru yn 2017 fel aelod o’r tîm Ymchwil ac Ystadegau. Ers iddo symud i’r Gyfarwyddiaeth Polisi a Diwygio Cymwysterau yn 2019 cafodd brofiad o weithio ar nifer o brosiectau diwygio cymwysterau, yn cynnwys rhai yn y sectorau TGCh, ac adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, yn ogystal â datblygu meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymwysterau cenedlaethol 14-16. Mae bellach yn aelod o’r tîm Moderneiddio Asesu sy’n gweithio i ganfod sut y gall defnyddio technoleg ddigidol mewn ffordd effeithiol wella dilysrwydd asesiadau.
Honor Taylor
Rheolwr Cymwysterau, Cymwysterau Cymru
Ymunodd Honor â Cymwysterau Cymru yn 2019 ac, ar hyn o bryd, hi sy’n arwain y gwaith o ddiwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Ochr yn ochr â’i gwaith ar gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru, bu Honor yn gweithio ar nifer o adolygiadau yn y sector, yn diwygio cymwysterau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig a bu’n rheoli’r portffolio grantiau. Yn 2024, cwblhaodd Honor ei gradd Meistr mewn Addysg, ac roedd ei thraethawd hir yn canolbwyntio ar y manteision a ddaw os gall dysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg mewn asesiadau.
Trudie Jones
Swyddog Cymwysterau, Cymwysterau Cymru
Ymunodd Trudie â Cymwysterau Cymru yn gynnar yn 2023. Ar ôl bod yn athrawes am bron 20 mlynedd, cychwynnodd ar daith broffesiynol newydd. Symudodd i faes polisi cymwysterau a diwygio cymwysterau, ac mae Trudie bellach yn aelod o’r tîm sy’n gweithio ar ddiwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Hi hefyd yw’r Rheolwr Grantiau, sy’n goruchwylio’r portffolio grantiau
Ros Protheroe
Cyfarwyddwr Hyfforddiant Panda Education and Training
Mae Ros Protheroe yn addysgwraig a hyfforddwraig sydd â dros 25 mlynedd o brofiad ym maes dysgu seiliedig ar waith. Ar ôl dechrau fel tiwtor addysg oedolion, symudodd i feysydd prentisiaethau, ansawdd ac arweinyddiaeth. A hithau’n Gyfarwyddwr Hyfforddiant gyda Panda Education and Training, mae Ros yn cefnogi ymarferwyr â dulliau pedagogaidd, technoleg addysg, cymhelliant dysgwyr, ac adborth. Mae’n credu’n angerddol mewn grymuso addysgwyr, gan eu helpu i wella’u sgiliau a chyrraed safon uchel wrth addysgu, ac mae’n cefnogi dysgwyr i gyrraedd eu llawn botensial.
Lisa O’Connor
Rheolwr Academaidd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ar ôl cael ei hyfforddi’n gyntaf i fod yn athrawes Gymraeg uwchradd, penodwyd Lisa’n Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yng Ngholeg Sir Benfro. Roedd cyfrifoldebau’r swydd honno’n cynnwys datblygu darpariaeth addysg ddwyieithog ar draws y meysydd pwnc a’r lefelau yn ogystal â gweithredu’r Strategaeth Ddatblygu a gyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2019. Bu hyn yn sylfaen ddelfrydol ar gyfer camu i swydd Rheolwr Academaidd Addysg Bellach a Phrentisiaethau o fewn y Coleg lle mae Lisa bellach yn arwain y tîm sy’n cefnogi darparwyr i weithredu’r strategaeth. Mae Lisa o’r farn fod yr iaith Gymraeg yn eiddo i bawb yng Nghymru a bod gan bob unigolyn ran bwysig i’w chwarae er mwyn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Alaw Dafydd
Swyddog Datblygu Addysg Bellach a Phrentisiaethau, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Alaw yn gweithio gyda cholegau a darparwyr prentisiaethau i gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae hi hefyd yn gyfrifol am gomisiynu datblygiad adnoddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog newydd i ddarparwyr addysg bellach a phrentisiaethau eu defnyddio gyda’u dysgwyr, gyda phwyslais arbennig ar gefnogi’r rhai llai hyderus i ddilyn cymaint o’r adnoddau trwy gyfrwng y Gymraeg â phosibl.
Joshua Miles
Cyfarwyddwr Cymru, y Sefydliad Dysgu a Gwaith
Joshua Miles yw Cyfarwyddwr Cymru, y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Ef sy’n arwain y gweithgarwch yng Nghymru ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill. Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr CPT Cymru ac yn Bennaeth Polisi FSB Cymru. Bu Joshua hefyd yn aelod o rai o gyrff cynghori Llywodraeth Cymru yn cynnwys Panel Cynghori Trafnidiaeth Cymru, Tasglu’r Cymoedd a Phwyllgor Ymchwil ac Arloesi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Hayden Llewellyn
Prif Weithredwr, Cyngor y Gweithlu Addysg
Ar ôl ymuno â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) pan sefydlwyd ef yn 2000, bu’n Ddirprwy Brif Weithredwr ac yn Brif Weithredwr yno, cyn i’r corff gael ei ailenwi’n Cyngor y Gweithlu Addysg ac ehangu ei gylch gwaith ym mis Ebrill 2015.
Mae gan Hayden brofiad helaeth yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ar ôl gweithio mewn addysg bellach ac uwch, y gwasanaeth iechyd, yr heddlu , ac i gwmni manwerthu rhyngwladol.
Mae wedi bod yn llywodraethwr mewn nifer o golegau addysg bellach yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Mark Boucher
Rheolwr Gyfarwyddwr Future Digital Education
Mae gan Mark 25 mlynedd o brofiad ym myd ffilm, teledu ac addysg, ac mae’n angerddol am gynhyrchu, sinematograffi a golygu. Fel un sy’n arbenigo mewn arloesi digidol, mae’n defnyddio technoleg yn effeithiol er mwyn dysgu’n well. Mae Mark yn datblygu rhaglenni hyfforddi a meysydd llafur digidol sydd wedi’u cynllunio i rymuso addysgwyr a myfyrwyr i ddefnyddio technoleg yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gwaith. Mae’n arbenigo mewn gwahanol dechnolegau addysgol ac yn ymroi i feithrin amgylchedd cynhwysol, deniadol i bob dysgwr.
Charlie Hammond
Ymgynghorydd Hyfforddiant AI
Mae gan Charlie Hammond dros 30 mlynedd o brofiad ym myd addysg lle mae wedi arwain trawsnewidiad digidol effeithiol, gan ennill gwobrau fel Gwobr Arian am wneud Defnydd Eithriadol o Dechnoleg mewn Addysg. Mae ganddo brofiad o ddysgu ar bob lefel, o Chwaraeon Anturus Awyr Agored i gyrsiau TAR. Ac yntau’n arbenigo mewn Technoleg Addysg a Deallusrwydd Artiffisial, mae Charlie yn frwd dros rymuso addysgwyr a dysgwyr i gofleidio arloesedd. Mae ef a Mark Boucher yn datblygu datrysiadau blaengar i wella creadigrwydd, cynhwysiant ac ymgysylltiad trwy gyfrwng technoleg.