Ansawdd

English | Cymraeg

Sefydlwyd swydd Pennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) ym mis Mai 2016 gyda chyfrifoldeb dros arwain a chydlynu’r gwaith o wella ansawdd trwy’r sector DSW i gyd yng Nghymru. Mae’n cydweithio’n agos â dalwyr contractau a gomisiynir i ganfod meysydd lle mae angen cefnogaeth. Cefnogir y prosiect dwy flynedd gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Diben
Mae’r prosiect yn cefnogi’r rhwydwaith darparwyr ac yn ei herio i gydlynu datblygiad proffesiynol parhaus, i rannu arferion da ac i annog rhagoriaeth trwy’r sector DSW i gyd. Mae deilydd y swydd yn gyfrifol am:

Cydlynu datblygiad proffesiynol parhaus

  • Cydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith proffesiynol a llwybr proffesiynol clir ar gyfer y sector
  • Cydweithio â Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC) i ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y gweithlu, a fydd yn rhoi’r Safonau Proffesiynol ar waith
  • Cynllunio a threfnu gweithdai, cynadleddau a gweithgareddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gweithwyr ym maes DSW

Rhannu Arferion Da

  • Cydweithio â’r sector i werthuso arferion gorau
  • Cydlynu gweithgareddau gwella ansawdd, fel y gellir rhannu arferion gorau trwy’r sector cyfan
  • Parhau i ddatblygu gallu’r sector i weithio, gan ymateb i feysydd gwelliannau Estyn trwy gyfrwng cyfleoedd dysgu proffesiynol
  • Cydweithio â sefydliadau cyfatebol a chymunedau gwaith yn Ewrop h.y.: EQAVET, ECVET, i ganfod arferion rhagorol a’u rhannu â’r sector
  • Gwneud gwaith ymchwil i ganfod a rhannu arferion gorau ar gyfer cyflenwi DSW ledled y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.

Datblygu gweledigaeth glir o ragoriaeth

  • Creu ‘Gweledigaeth ar gyfer Rhagoriaeth’
  • Cydweithio â Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i asesu sut y mae agweddau cyflogwyr at ansawdd yn effeithio ar werth prentisiaethau
  • Parhau i gydweithio â Cymwysterau Cymru i wella systemau sicrwydd ansawdd parhaus ac i wella ansawdd, gan gyfrannu at adolygiadau’r sectorau o gymwysterau galwedigaethol
  • Cydweithio â Chymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid i sicrhau bod profiad dysgwyr yn gwella o ganlyniad i welliannau yn ansawdd y ddarpariaeth
  • Datblygu capasiti a gallu’r sector i ymateb i agenda Prevent

Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â:
Fiona Argent, Pennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith
Ebost: fiona.argent@ntfw.org
Ffôn symudol: 07557 051316
Swyddfa: 029 2049 5861