Arian am Oes

English | Cymraeg

Rhaglen arobryn gan y Lloyds Banking Group i helpu pobl i reoli eu harian personol oedd Arian am Oes. Anelwyd hi at bobl ifanc ac oedolion yn y sectorau Addysg Bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu yn y gymuned.

Mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd a phwysedd ar yr arian oedd gan bobl ym Mhrydain i’w wario, roedd yn bwysicach nag erioed i bobl ddysgu sgiliau er mwyn rheoli eu harian a gwneud y dewisiadau gorau ar y pryd, ac ar gyfer eu dyfodol. Mae’n bwysig cael y wybodaeth, y sgiliau, yr hyder a’r ysgogiad i reoli’ch arian yn dda.

Cymwysterau

Roedd Arian am Oes yn cynnig tri chymhwyster hyfforddi, wedi’u hachredu a’u hariannu’n llawn, er mwyn rhoi’r hyder a’r wybodaeth i staff dysgu ac arweinyddion cymunedol i gynnig sesiynau rheoli arian mewn cymunedau.

Her Arian am Oes

Roedd cystadleuaeth Her Arian am Oes yn rhoi grantiau o £500 i dimau o bobl ifanc 16 i 24 oed ledled y Deyrnas Unedig i redeg prosiect er mwyn gwella sgiliau rheoli arian yn eu cymunedau. Aeth y prosiectau mwyaf ysbrydoledig, a gafodd yr effaith fwyaf, ymlaen i Rownd Derfynol Cymru ac yna Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig.

Yn ôl i Prosiectau wedi’u Cwblhau