Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

English | Cymraeg

Pwrpas y swydd yw darparu trefn i gefnogi’r rhwydwaith o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith (DSW) a’u helpu i annog rhagor o bobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl anabl i wneud Prentisiaethau. Bydd hyn o gymorth i ymateb i strategaethau cenedlaethol ac i roi cyfle cyfartal i’r unigolion hynny a hoffai wneud Prentisiaeth.

Amcanion
Bwriad y swydd yw helpu’r rhwydwaith darparwyr DSW i gynllunio eu strategaethau a rhoi eu cynlluniau gweithredu ar waith er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd i unigolion o gymunedau ethnig leiafrifol a phobl anabl, a chanfod a rhannu arferion da a welir ar hyn o bryd yn y rhwydwaith darparwyr DSW.

Bydd yr Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (ASCA) yn cydweithio â’r rhwydwaith darparwyr DSW i:

  • Sicrhau bod rhagor o ddysgwyr o gymunedau ethnig leiafrifol a phobl anabl yn gwneud Prentisiaethau
  • Mynd i’r afael â mater stereoteipio ar sail rhywedd
  • Rhannu arferion da yn y rhwydwaith darparwyr Prentisiaethau

Yn ogystal, bydd yr ASCA yn:

  • cydweithio â sefydliadau eraill sy’n hyrwyddo dysgu ymhlith unigolion o gymunedau ethnig leiafrifol a phobl anabl, ynghyd â’r rhai sy’n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod yn y
  • canfod y strategaethau a’r arferion gorau a fyddai’n ddefnyddiol i’r rhwydwaith darparwyr DSW
  • cefnogi’r gwaith o wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol



I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â:
Humie Webbe, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Ebost: humie.webbe@ntfw.org
Ffôn symudol: 07557 051329
Swyddfa: 029 2049 5861