Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle

English | Cymraeg

Llwyddodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) i sicrhau contract sylweddol gyda Llywodraeth Cymru i gyflenwi’r Rhaglen Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle (ESiW) ledled Cymru. Darparwyd y Rhaglen trwy rwydwaith o ddeg o Ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Sicrwydd Ansawdd, pob un ohonynt â phrofiad sylweddol o gyflenwi hyfforddiant yn y gweithle.

Roedd y Rhaglen Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle yn ymateb i’r ffaith fod cyfran uchel o’r oedolion sy’n gweithio yng Nghymru heb sgiliau sylfaenol mewn llythrennedd, rhifedd na TGCh.

Bu’r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â Darparwyr Hyfforddiant a chyflogwyr gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o fanteision sgiliau yn y gweithlu. Aeth ati i ganfod pa sgiliau hanfodol oedd yn eisiau ac i gynnig cymorth ychwanegol i bobl er mwyn codi lefelau’r sgiliau hanfodol yn y gweithle.

Roedd y Rhaglen Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle yn canolbwyntio ar bobl oedd yn gweithio ond oedd heb sgiliau hanfodol. Roedd yn sicrhau bod pobl yn cael rhagor o gyfleoedd a gwell cyfleoedd i ddysgu mewn sefyllfaoedd gwahanol i’r arfer, gydag arddulliau dysgu oedd yn addas ar eu cyfer, wedi’u haddasu’n arbennig i gyd-destun eu gweithle.

Cafodd y rhaglen ei rhan-ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru www.europa.eu

 

 

 

 

Yn ôl i Prosiectau wedi’u Cwblhau