PSR Gogledd Cymru – Arolwg Sgiliau i Gyflogwyr Cyfle i ddweud eich dweud

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ydych chi’n gallu denu a chadw pobl sydd â’r sgiliau iawn ar gyfer eich busnes chi? Hoffech chi chwarae rhan yn newid tirwedd sgiliau’r rhanbarth?

Hoffai Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru wahodd busnesau o bob rhan o’r gogledd i gymryd rhan mewn Arolwg Sgiliau ar gyfer Cyflogwyr. Dyma’ch cyfle i rannu’ch barn gyda’r Bartneriaeth am yr heriau, y problemau a’r cyfleoedd rydych wedi’u hwynebu ym maes sgiliau, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu dros y 12 mis diwethaf, ynghyd â’ch anghenion o ran sgiliau yn y dyfodol.

Bydd yr arolwg yn helpu’r Bartneriaeth i ddeall eich anghenion o ran sgiliau yn awr ac i’r dyfodol. Bydd hefyd yn galluogi’r Bartneriaeth i gael gwell dealltwriaeth o dirwedd fusnes bresennol y rhanbarth, ac i sicrhau bod ei blaenoriaethau’n cyfateb i anghenion cyflogwyr o bob sector.

Mae Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru’n un o dair Partneriaeth Sgiliau yng Nghymru sy’n cydweithio â busnesau i ddeall eu hanghenion o ran sgiliau. Bydd y wybodaeth a roddwch chi yn cyfrannu at ein Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth ar gyfer y rhanbarth. Defnyddir y Cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru i lywio’r broses o ariannu cyrsiau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Dyma gyfle da – gallwch chi gymryd rhan yn yr arolwg neu ei rannu ag eraill. Bydd yr arolwg yn agored tan 24 Mai, 2019.

PSR Gogledd Cymru Arolwg Sgiliau

More News Articles

  —