Pwyslais cyngor ar brentisiaid yn arwain at le ar restr fer gwobrau cenedlaethol

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Rheolwr cyflogaeth, addysg a hyfforddiant RhCT, Sian Woolson gyda phrentisiaid.

Rheolwr cyflogaeth, addysg a hyfforddiant RhCT, Sian Woolson gyda phrentisiaid.

Adeiladu economi gref, hyrwyddo annibyniaeth a bywydau cadarnhaol i bawb, a chreu cymdogaethau mae pobl yn falch o gael byw a gweithio ynddyn nhw – dyna rai o amcanion craidd Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Un rhan ganolog o’r ethos hwn yw Rhaglen Brentisiaethau’r cyngor sy’n cynnig cyfleoedd i’r prentisiaid ddysgu a datblygu mewn sefydliad deinamig sy’n edrych tua’r dyfodol.

Cafodd gwaith y cyngor ei gydnabod trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Facro-gyflogwr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Mae’r cyngor yn cydweithio â nifer o bartneriaid allanol, yn cynnwys Coleg Pen-y-bont a Choleg y Cymoedd, i gynnig dros 20 o Brentisiaethau mewn gyrfaoedd amrywiol fel peirianneg, garddwriaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, ffitrwydd, mecaneg, a sain a goleuo technegol a llwyfannu.

Yn 2012, gan fod y boblogaeth yn heneiddio, gwelodd y cyngor bod angen datblygu gweithlu profiadol wedi’i hyfforddi i safon uchel er mwyn wynebu heriau’r dyfodol. Mae dwy elfen i’r broses, yn gyntaf, gosod yr 85 prentis sydd gan y cyngor ar hyn o bryd i gydweithio â mentoriaid profiadol a chydlynydd i’w helpu i ddatblygu’n unigolion medrus iawn sydd â rhagolygon am yrfa faith gyda’r cyngor.

Yn ail, datblygu profiad a gwybodaeth er mwyn helpu i ostwng lefelau diweithdra a phrinder sgiliau ledled y fwrdeistref.

Mae gan randdeiliaid allanol ran allweddol i’w chwarae yn y Prentisiaethau dwy flynedd ac, yn ddiweddar, bu’r cyngor yn cydweithio ag undeb lafur y gwasanaethau cyhoeddus, Unsain, i greu Siarter Brentisiaethau arloesol.

Dywedodd rheolwr cyflogaeth, addysg a hyfforddiant y Cyngor, Sian Woolson: “Rydyn ni’n edrych ar brentisiaeth fel dechrau taith sy’n ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol o ddwy flynedd. O ganlyniad i hynny, mae dros 90% o’n prentisiaid yn cael cyfleoedd pellach i weithio ac i ddysgu ac mae’r mwyafrif mawr yn aros gyda ni.”

Oherwydd llwyddiant y rhalen, mae Rhondda Cynon Taf wedi datblygu gweithdai mewn ysgolion uwchradd ac wedi cydweithio â Chyngor Merthyr Tudful ar raglen recriwtio ar y cyd.

Wrth longyfarch Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —