Ystyried cymwysterau’r dyfodol a Grŵp Dysgwyr newydd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Cymwysterau Cymru yn ystyried beth yw’r ffordd orau i gymwysterau gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn y dyfodol ac mae’n chwilio am ddysgwyr i ymuno â’i ‘Grŵp Dysgwyr Galwedigaethol/Seiliedig ar Waith’ er mwyn deall yr heriau sy’n eu hwynebu wrth astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol.

Cwricwlwm newydd i Gymru

Dweud eich dweud: cymwysterau nad ydynt yn gymwysterau TGAU i gefnogi Cwricwlwm newydd i Gymru

Mae Cymwysterau Cymru’n adolygu’r ffordd orau o gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Yn fwy penodol, rydym yn edrych ar ba gymwysterau ddylai fod ar gael ochr yn ochr â TGAU, ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed.

Rydym yn edrych ar yr holl gymwysterau nad ydynt yn gymwysterau TGAU megis Diogelwch Bwyd, Chwaraeon & Cymorth Cyntaf, y Byd Gwaith, Datblygu Gyrfa, a llawer mwy.

Rydym yn gofyn i bawb sydd â diddordeb personol – dysgwyr, cyflogwyr, rhieni/gofalwyr, gweithwyr addysgol proffesiynol a’r cyhoedd – ddweud eu dweud ar y sgiliau, yr asesu a’r defnydd o dechnoleg ddigidol yn y cymwysterau hyn.

Os hoffech gymryd rhan, cwblhewch ein harolwg sy’n fyw tan ddydd Llun 31 Ionawr 2022. Nodwch, mae gennym arolwg penodol ar gyfer dysgwyr yn unig – os ydych yn ddysgwr, cwblhewch yr arolwg. Bydd hon hefyd ar gael tan ddydd Llun 31 Ionawr 2022.

Yn galw ar Ddysgwyr Galwedigaethol a Dysgwyr Seiliedig ar Waith!

Mae Cymwysterau Cymru yn sefydlu Grŵp Dysgwyr Galwedigaethol/Seiliedig ar Waith i siarad â dysgwyr a deall yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth astudio cymwysterau galwedigaethol.

I wneud cais, rhaid i ddysgwyr fod yn 16 oed neu’n hŷn, yn astudio cymwysterau galwedigaethol neu mewn lleoliad dysgu seiliedig ar waith.
Anogir dysgwyr o wahanol leoliadau addysg i wneud cais yn ogystal â dysgwyr cyfrwng Cymraeg a’r rhai hynny sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Y dyddiad cau yw dydd Gwener 10 Rhagfyr a rhaid i chi wneud cais drwy Wefan Cymwysterau Cymru.

Cymwysterau Cymru

More News Articles

  —