Cefnogi Dysgwyr a Chyfleoedd i Rannu’ch Barn

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae’r haf yn gyfnod prysur i ddysgwyr ac ymarferwyr. Yn y diweddariad yma, mae Cymwysterau Cymru yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i ddysgwyr, yn ogystal â dau gyfle i randdeiliaid rhannu barn ar y gyfres arholiadau ac asesiadau, yn ogystal â’r cynnwys allweddol ar gyfer cyfres newydd o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Image banner

Arolwg cynnwys: Rydym yn parhau â’n gwaith i ddiwygio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol yn dilyn ein hadolygiad manwl.

Hoffem glywed gan ymarferwyr a chyflogwyr am y cynnwys allweddol sydd ei angen i baratoi dysgwyr yn effeithiol ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith modern.

Bydd ein holiadur byr ar agor tan 20 Mehefin.

Arholiadau ac asesiadau
Mae cefnogaeth ar gael i ddysgwyr wrth iddynt gwblhau eu harholiadau a’u hasesiadau. Mae gan wefan Cymwysterau Cymru lawer o wybodaeth, yn ogystal â nodiadau atgoffa a chefnogaeth o fewn y canllaw i ddysgwyr.

Image banner

Dweud Eich Dweud: Mae arolwg Cymwysterau Cymru yn agored i gasglu barn dysgwyr, ymarferwyr ac eraill ar arholiadau yr haf yma. Rhannwch eich adborth ar arholiadau trwy gwblhau’r arolwg ar-lein byr: Dweud eich Dweud ar Arholiadau Haf 2025.

Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein newyddion, cyhoeddiadau, arolygon a digwyddiadau diweddaraf, cofrestrwch i’n cylchlythyr misol wrth glicio ar y botwm sydd ar dudalen hafan gwefan Cymwysterau Cymru.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —