Cymwysterau Cymru: ymgeisiwch i fod yn arbenigwr pwnc

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Ydych chi’n barod i helpu i lunio dyfodol addysg yng Nghymru?

Allech chi ddefnyddio’ch gwybodaeth a’ch arbenigedd i helpu i ddylanwadu ar gymwysterau’r dyfodol?

Rydyn ni’n chwilio am unigolion sydd â gwybodaeth a phrofiad o bynciau ac asesu i weithio ochr yn ochr â’n tîm cymeradwyo i’n helpu i gymeradwyo cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd a chyffrous. Mae angen amrywiaeth o unigolion sydd â chyfoeth o brofiad ar draws pob pwnc ym mhob un o’r chwe maes dysgu a phrofiad (MDPh), sydd â dealltwriaeth fanwl o’r Cwricwlwm i Gymru a gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o asesu addysgol.

Fel arbenigwr pwnc, byddwch yn cydweithio’n agos â’n tîm cymeradwyo drwy gydol y broses gymeradwyo ac yn chwarae rhan ategol yn yr adolygiad o’r cymwysterau newydd Gwneud-i-Gymru a ddatblygwyd gan y corff dyfarnu. Mae hwn yn gyfle unigryw i gael effaith sylweddol ar gymwysterau yng Nghymru a chael profiad amhrisiadwy.

Mae ceisiadau bellach ar agor drwy GwerthwchiGymru. Y dyddiad cau i ymgeisio ar gyfer y cyfle hwn yw dydd Gwener 3 Tachwedd 2023.

Cymwysterau Cymru yn cadarnhau dychwelyd i drefniadau arholi ac asesu cyn y pandemig eleni

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Cymwysterau Cymru gyhoeddi’r dull ar gyfer arholiadau ac asesiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-2024, gan gadarnhau y bydd cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau yng Nghymru yn dychwelyd fwy neu lai i drefniadau cyn y pandemig.
Mae’r diweddariad yn cadarnhau dychwelyd i ddulliau cyn y pandemig, gan ddechrau ym mis Tachwedd, gyda mesurau diogelu ystadegol yn y broses ddyfarnu i atal canlyniadau rhag gostwng yn sylweddol is na’r lefelau cyn y pandemig, ar lefel pwnc.

Mae hyn yn dynodi’r cam olaf ar daith system gymwysterau Cymru yn ôl i’r trefniadau asesu arferol, yn dilyn blynyddoedd o drefniadau gwahanol oherwydd tarfu yn sgil y pandemig.

Dywedodd Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru:

“Ar ôl blynyddoedd o drefniadau amgen, gallaf gadarnhau y bydd cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau yng Nghymru yn dychwelyd i drefniadau cyn y pandemig. Fel yn achos y llynedd, bydd cymwysterau galwedigaethol hefyd yn dilyn trefniadau cyn y pandemig.

Mae dysgwyr wrth wraidd ein penderfyniadau, a dyna pam rydyn ni wedi cymryd agwedd gam wrth gam tuag at ddychwelyd i drefniadau cyn y pandemig dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Mae’n bwysig i ni fynd yn ôl at y trefniadau arferol fel bod graddau’n paratoi dysgwyr ar gyfer coleg, prifysgol neu gyflogaeth yn y modd gorau posibl, ac yn eu helpu i wneud y dewisiadau cywir am eu camau nesaf.

Roedd dulliau graddio hanner ffordd y ddwy flynedd ddiwethaf yn fodd o roi cymorth ychwanegol i ddysgwyr, ac rydyn ni’n credu mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud. Fodd bynnag, roedd hynny’n golygu na allem gynnal safonau yn y ffordd arferol. Mae’n hanfodol ein bod ni’n diogelu gwerth hirdymor graddau dysgwyr, er mwyn sicrhau cymaroldeb â’u cyfoedion mewn awdurdodaethau eraill a chynnal hyder yn system gymwysterau Cymru.

Yn 2024, bydd dysgwyr unwaith eto’n cael y cyfle i ddangos yr hyn maen nhw’n ei wybod ac yn gallu ei wneud mewn arholiadau ac asesiadau ffurfiol. Mae’r graddau mae dysgwyr yn eu cyflawni yn yr arholiadau a’r asesiadau ffurfiol hyn yn mesur eu cyrhaeddiad ac yn caniatáu iddyn nhw symud ymlaen i addysg uwch ac addysg bellach, neu ymlaen i gyflogaeth.”

Cymwysterau Cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —