Cymwysterau Cymru – Grŵp Cynghori i Ddysgwyr

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg


 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Os wyt ti’n 16+ ac yn dilyn prentisiaeth, cymhwyster galwedigaethol neu gwrs dysgu seiliedig ar waith, gelli di wneud cais i ymuno â’n Grŵp Dysgwyr Galwedigaethol/Seiliedig ar Waith.

Beth mae’r grwpiau’n ei wneud?
Mae aelodau’r grwpiau’n chwarae rhan allweddol wrth helpu Cymwysterau Cymru i feithrin perthynas gyda dysgwyr a chlywed beth mae dysgwyr eisiau yn uniongyrchol.

Rydyn ni’n disgwyl i aelodau:

  • herio, cwestiynu a chefnogi Cymwysterau Cymru
  • ein helpu ni i lunio dyfodol cymwysterau a’r system gymwysterau
  • ystyried barn a safbwyntiau dysgwyr yn ystod trafodaethau

Pam gwneud cais:

  • cael profiad unigryw ar eich CV
  • gwella eich sgiliau – cyfathrebu, gweithio mewn tîm
  • sicrhau bod llais y dysgwr yn cael ei glywed

Diddordeb?
Dysga ragor a gwna gais heddiw drwy fynd i qualificationswales.org neu drwy sganio’r cod QR

qr-code

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —