RAF Y Fali – Prentisiaid Lleol yn cael Swyddi ym maes Peirianneg

Postiwyd ar gan karen.smith

VAL-OFFICIAL-20180907-357-0038

English | Welsh

Mae grŵp o Brentisiaid o Grŵp Rhyngwladol Babcock yn dathlu wedi iddynt sicrhau swyddi parhaol yn RAF Y Fali gyda’r cwmni enwog ym maes awyrennau a pheirianneg.

Daeth y prentisiaid a’u teuluoedd ynghyd â chynrychiolwyr o Babcock ac adran fusnes Grŵp Llandrillo Menai, Busnes@LLandrilloMenai, ynghyd yn ddiweddar i ddathlu llwyddiant y Rhaglen Brentisiaeth ym maes Peirianneg Awyrenegol a’r Prentisiaethau Peirianneg Gyffredinol HADES a gyflwynwyd am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru. Gwnaeth y pymtheg dysgwr yn aruthrol o dda yn ystod eu hyfforddiant, ac o ganlyniad, cafodd pob un ohonynt gynnig contract gyda Babcock yn RAF Y Fali.

Roedd tri arall, a astudiodd Brentisiaeth Peirianneg Gyffredinol HADES, hefyd yn dathlu eu bod wedi cwblhau eu prentisiaethau ac wedi sicrhau swyddi parhaol yn dilyn tair blynedd o astudio a chyflawni Diploma City and Guilds Lefel 3 mewn Peirianneg.

Yn 2016 arwyddwyd memorandwm o ddealltwriaeth rhwng Coleg Menai a Babcock, lle cytunodd y ddau sefydliad i weithio gyda’i gilydd i hyfforddi 33 o beirianwyr awyrenegol dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2020. Bydd y cytundeb hwn yn help i dair carfan o bobl ifanc lleol i ennill y cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrenegol.

Y prentisiaid hyn, sydd newydd sicrhau swyddi parhaol, yw’r grŵp cyntaf i gyflawni’r rhaglen hon. Bydd grwpiau eraill yn cwblhau eu hyfforddiant yn 2019 a 2020. Mae’r partïon yn gobeithio ymestyn y cynllun ymhellach wrth i Babcock ddatblygu a buddsoddi yn RAF Y Fali a meithrin carfan o dalent lleol.

Dywedodd Neal Misell, Rheolwr Gyfarwyddwr busnes Awyrennau Milwrol Babcock yn y DU,
Rydym yn falch iawn o lwyddiant ein Prentisiaid. Roedd hi’n bwysig cydnabod yr hyn roeddynt wedi’i gyflawni a dathlu gyda’u teuluoedd. Yr her sydd o’u blaenau rŵan yw mynd ymlaen i sicrhau gyrfaoedd gwych gyda Babcock. Edrychwn ymlaen at eu gwylio’n datblygu ymhellach yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

Aeth Dafydd Evans ymlaen i ddweud:
Rydym yn ofnadwy o falch o’r prentisiaid sydd wedi gweithio mor galed yn y coleg ac yn y gweithle. Mae’n braf gweld pobl ifanc lleol yn cael hyfforddiant a gwaith gyda chwmni enwog fel Babcock. Fel coleg rydym yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio’n agos gyda’r diwydiant er mwyn datblygu rhaglenni sy’n cynnig hyfforddiant o’r radd flaenaf.

Mae enw da a phoblogrwydd prentisiaethau wedi disgyn yn ystod y degawdau diwethaf, ond mae rhaglenni fel hyn wedi codi proffil prentisiaethau – dim ond ymgeiswyr arbennig iawn mae Babcock yn eu dewis ac yn mynd ymlaen i’w hyfforddi i’r safon uchaf. Mae’r bobl ifanc rydym wedi’u cyfarfod y bore yma yn profi y gall prentisiaethau agor y drws i yrfa lewyrchus iawn, gyrfa sy’n cynnig cyfle i ddatblygu a theithio. Rwyf am ofyn i’r prentisiaid sydd yma heddiw i rannu eu profiadau gyda phobl ifanc eraill a chanu clod y rhaglenni prentisiaeth, a Choleg Menai wrth gwrs.

Newyddion Grŵp Llandrillo Menai

More News Articles

  —