Cyngor yn ennill gwobr genedlaethol am ei Raglen Brentisiaethau lwyddiannus

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

RTC Council

Sian Woolson, rheolwr addysg, cyflogaeth a hyfforddiant Cyngor Rhondda Cynon Taf gyda’r cydgysylltydd prentisiaid a graddedigion Maria Jones.

Enillodd awdurdod lleol o’r de wobr o bwys yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar ôl i’w Raglen Brentisiaethau a lansiwyd naw mlynedd yn ôl greu argraff ar y beirniaid.

Gyda chyfradd cwblhau prentisiaethau o 94%, enwyd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn Facro-gyflogwr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo rithwir ar 17 Mehefin. Dyma’r ail dro mewn pedair blynedd i’r cyngor ennill y wobr hon.

Er gwaethaf heriau pandemig byd-eang a Storm Dennis, a effeithiodd ar 1,500 o gartrefi a busnesau ledled yr ardal, mae Rhaglen Brentisiaethau’r cyngor yn dal i ffynnu.

Trefnodd y cyngor i’r 80 o brentisiaid weithio gartref a darparwyd gliniaduron, desgiau, cadeiriau ac offer arall ar eu cyfer, ac aeth y darparwyr hyfforddiant ati i drefnu i ddysgu o bell a chynnig estyniadau i gyrsiau a dyddiadau cau.

Mewn ymateb i Storm Dennis, a achosodd ddifrod i ffyrdd, pontydd a chanol trefi yn yr ardal, mae’r cyngor wedi recriwtio pedwar prentis ychwanegol mewn peirianneg sifil. Bydd un o’r rhain yn gweithio’n benodol ym maes rheoli risgiau llifogydd.

Wrth ymateb i’r wobr, dywedodd Sian Woolson, rheolwr addysg, cyflogaeth a hyfforddiant y Cyngor: “Mae’n braf cael ein cydnabod fel awdurdod lleol sy’n cynnig rhaglen brentisiaethau ardderchog, yn enwedig gyda’r holl heriau a gafwyd dros y 18 mis diwethaf.

“Rydym wedi goresgyn yr heriau hyn trwy addasu i ffyrdd gwahanol o weithio. Mae prentisiaid yn rhan allweddol o’n cynllun corfforaethol gan mai nhw fydd ein gweithlu yn y dyfodol a’u bod yn helpu i lenwi’r bylchau sydd gennym mewn sgiliau.

Roedd Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn dathlu llwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau ac roedd 35 o ymgeiswyr yn y rownd derfynol mewn 12 categori.

Y gwobrau oedd uchafbwynt y flwyddyn i’r byd dysgu seiliedig ar waith. Roeddent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion oedd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnwyd y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, oedd y prif noddwr.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 50,360 o bobl ledled y de-ddwyrain wedi elwa ar Raglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Mae’r cyngor, ar y cyd â gwahanol bartneriaid hyfforddi, yn cynnig Fframweithiau Prentisiaethau mewn 15 disgyblaeth, yn cynnwys Busnes a Gweinyddu, Telathrebu, Garddwriaeth a Rheoli.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu’n bwysig i’r prentisiaid fod yn hyblyg. Mae prentisiaid wedi’u hadleoli i gefnogi gwasanaethau hanfodol yn y gymuned, bu rhai’n cydweithio â’r GIG ar ddata am bobl sy’n gorfod eu gwarchod eu hunain rhag y coronafeirws, ac mae rhai wedi bod yn dosbarthu parseli bwyd. Cafodd bron wyth o bob deg prentis swydd gyda’r cyngor ar ôl gorffen eu prentisiaeth.

Meddai Helena Williams, cyfarwyddwr gyda’r darparwr hyfforddiant ALS Training yng Nghaerdydd: “Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr o bob cefndir a phob lefel gallu i ddysgu a datblygu trwy brentisiaeth mewn sefydliad deinamig a blaengar.”

Wrth longyfarch Cyngor Rhondda Cynon Taf, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori wrth ymwneud â Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn na welwyd ei fath o’r blaen.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ailgodi gan sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru a fydd yn beiriant i greu twf cynaliadwy a chynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau’n hollbwysig wrth i ni ddod dros effeithiau’r pandemig.

“Dyna pam y mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 o lefydd ychwanegol ar Brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydym ond mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”

More News Articles

  —